Skip to main content

Parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig

Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979

Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (Saesneg yn unig)

Fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, mae Deddf 1979 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal cofrestr o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru, sy’n cynnwys y canlynol:

  • parciau
  • gerddi
  • tirweddau addurnol a ddyluniwyd
  • mannau hamdden
  • tiroedd eraill a ddyluniwyd.

Daeth y gofrestr statudol i rym ar 1 Chwefror 2022, ac mae’n disodli'r gofrestr anstatudol. Mae'n cynnwys bron i 400 o safleoedd ledled Cymru ac mae'n parhau i fod yn gofnod gweithredol, gan ymgorffori safleoedd newydd wrth iddynt gael eu nodi. 

Ni fydd creu’r gofrestr statudol yn gosod unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol newydd ar barciau a gerddi hanesyddol Cymru nac yn cyflwyno trefn newydd o ran cydsyniad. Bydd safleoedd cofrestredig yn parhau i gael y lefel bresennol o ddiogelwch drwy’r system gynllunio.

Disgwylir i awdurdodau cynllunio lleol roi ystyriaeth i’r gofrestr wrth baratoi cynlluniau datblygu. Hefyd, gall effaith datblygiad arfaethedig ar safle cofrestredig neu’i leoliad fod yn ‘ystyriaeth berthnasol’ wrth benderfynu ynghylch cais cynllunio.

Bydd adeilad rhestredig neu heneb gofrestredig o fewn terfynau parc neu ardd hanesyddol gofrestredig yn ddarostyngedig i’r holl weithdrefnau cydsyniad perthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch lawrlwytho ein canllaw arfer gorau, Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru.