Chymeriad Hanesyddol
Nodweddion trefol
Yn y canllaw hwn
1. Aberdâr
Tyfodd Aberdâr yn gyflym iawn o fod yn bentref bach a oedd yn dyddio o'r cyfnod canoloesol i fod yn dref gyflawn dros ychydig o ddegawdau yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ysgogwyd y twf cyflym hwn gan y diwydiant haearn a gweithgarwch glofaol a phan ddaeth y rhain i ben, gadawyd tref ddiwydiannol ryfeddol o gyflawn ar eu hôl. Amgylchynir canol masnachol a dinesig y dref gan gyfres o ardaloedd preswyl a gynlluniwyd yn dda a adeiladwyd ar gaeau. Mae gan bob ardal brif arddull adeiladu a nodweddion unigryw. Yng nghanol y dref, mae gan yr adeiladau masnachol eu harddull eu hunain, yn cynnwys traddodiad anarferol o waith rendro addurnedig amlwg. Mae'r strydoedd preswyl wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond gellir gweld yr arddulliau unigryw a fabwysiadwyd gan dirfeddianwyr gwahanol ar adegau gwahanol o hyd, a cheir rhai manylion anarferol.
Mae'r astudiaeth yn darparu gwybodaeth i gefnogi Menter Treftadaeth Treflun sy'n canolbwyntio ar ganol y dref, yn ogystal â gweithgarwch cynllunio ac adfywio yn yr ardal ehangach.
2. Aberystwyth
Pennu nodweddion trefol sy’n diffinio cymeriad hanesyddol unigryw trefi unigol ac sy’n nodi amrywiaeth y cymeriad ynddyn nhw.
Mae’n edrych ar hanes tref ac yn nodi sut mae’r hanes hwnnw wedi’i fynegi ar ffurf patrymau gofodol a chysylltiadau a thraddodiadau adeiladu, sef cynhwysion sylfaenol cymeriad hanesyddol.
Ddiben cyntaf yr astudiaeth hon yw bwydo’r cynlluniau sy’n codi fel rhan o adfywiad strategol Aberystwyth.
Mae hefyd yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i ddatblygiad hanesyddol a chymeriad y dref drwyddi draw, a hynny fel ffynhonnell gwybodaeth at waith cynllunio a rheoli, ac i unrhyw un sydd am ddod i nabod Aberystwyth yn well.
3. Ynys y Barri
Mae gan Ynys y Barri le allweddol yn hanes cymdeithasol de Cymru. Mae hyn oherwydd, o’r 1890au hyd at y datblygiad diweddar o dwristiaeth dorfol o dramor, roedd yn boblogaidd fel lleoliad teithiau dydd i lan y môr o gymunedau’r pyllau glo, a thu hwnt. Ond mae mwy i’r ynys na hyn. Mae’n rhan nodedig o dref dociau a rheilffordd a ddatblygodd yn gyflym o 1884. Dyluniwyd y dociau a’r dref i dorri ar fonopoli Dociau Caerdydd dros allforion glo o dde Cymru. Erbyn 1913, y Barri oedd prif borthladd allforio glo y byd. Roedd yn gymuned newydd, o anghenraid, a ddenodd fewnfudwyr o bob cwr o Ynysoedd Prydain, ac roedd ardal y dociau a oedd yn aml-genhedlig, yn adlewyrchu ei gwmpas byd-eang.
Y cyd-destun uniongyrchol yw’r gwaith adfywio parhaus y mae Cyngor Bro Morgannwg a’I bartneriaid yn ei wneud yn y Barri. Mae hyn wedi arwain at welliannau i’r promenade dwyreiniol hanesyddol ac, ar adeg ysgrifennu, mae gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i ailddatblygu’r ceiau yn Noc Rhif 1. Fodd bynnag, mae ganddo fwriadau ehangach. Cydnabod pwysigrwydd y dirwedd a nodweddion y treflun sy’n cyfrannu at ymdeimlad nodedig o le a gall ymdeimlad cysylltiedig o gymuned ddylanwadu ar y ffordd y gofelir am Ynys y Barri a’r ffordd y caiff ei gwella a’i datblygu, nawr ac yn y dyfodol, mewn modd cynaliadwy. Gallai’r adroddiad lywio deialog ynghylch beth sy’n bwysig yn amgylchedd hanesyddol yr ynys, wrth i ragor o fentrau a chyfleoedd godi — boed hynny ar lan y môr neu mewn ardaloedd preswyl.
Mae’n gyfle da i bawb sydd am wybod mwy am hanes a chymeriad hanesyddol yr Ynys y Barri.
4. Blaenau Ffestiniog
Mae Blaenau Ffestiniog — y dref lechi — yn dref ddiwydiannol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddiffiniwyd yn glir iawn. Cynhaliwyd twf cyflym y dref yn gyfan gwbl gan y diwydiant chwarela, a ffurfiwyd nodweddion y dref mewn rai degawdau yn unig. Yng nghysgod y chwareli llechi, mae'r dref wedi'i chysylltu â'i thirweddau diwydiannol a gwledig cyfagos gan rwydwaith o draciau, ffyrdd a rheilffyrdd. Mae'r dref ei hun yn gyfres o gymunedau sy'n ffurfio anheddiad hirfain. Ymddengys fod ei stoc tai yn rhyfeddol o unffurf tan fod archwiliadau manylach yn datgelu cyfres o wahaniaethau cynnil - gwahaniaethau bach o ran maint a graddfa, amrywiadau yn y ffordd y cafodd deunyddiau adeiladu eu defnyddio a'u gorffen, ac yng nghynlluniau lleiniau a'u ffiniau. Helpodd y gwahaniaethau hyn i wahaniaethu cymdeithas y dref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac maent yn parhau i fod yn elfennau pwysig o gymeriad y dref hyd heddiw.
Paratowyd yr astudiaeth i helpu i lywio cynigion ar gyfer adfywio Blaenau Ffestiniog, ac i weithredu fel llinell sylfaen ar gyfer cynllunio a rheoli'r dref. Mae hefyd yn rhoi cyflwyniad i gymeriad hanesyddol y dref gyfan ac mae'n ffynhonnell wybodaeth i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am Flaenau Ffestiniog.
5. Glannau Caernarfon
Bu glannau Caernarfon, ger y castell a'r dref gaerog, yn rhan annatod o ffyniant y dref drwy gydol ei hanes. Mae'n debyg y bu harbwr yma ymhell cyn sefydlu'r dref a'r castell canoloesol ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd y dref yn cael budd o ddwy afon weithiol yn ogystal â ffryntiad hir i Afon Menai a oedd yn darparu cysylltiadau masnachu hanfodol. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygwyd aberoedd yr afonydd fel harbwrs - Doc Fictoria ar gyfer masnach arfordirol gyffredinol, a'r Cei Llechi fel harbwr arbenigol ar gyfer allforio llechi. Yn gysylltiedig â strwythur trawiadol Doc Fictoria ceir olion cyfres o gaeadleoedd a rhai adeiladau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - sy'n ein hatgoffa o hanes gwaith y porthladd. Cynlluniwyd y Cei Llechi fel cyfres o gaeadleoedd hefyd lle storiwyd llechi a lle roedd diwydiannau bach yn gweithredu. Rhwng ardaloedd y ddau harbwr, cafodd y glanfeydd canoloesol ar lannau'r Fenai fywyd newydd fel promenâd. Heddiw, mae cerdded ar hyd y glannau yn gyfystyr â cherdded drwy benodau niferus hanes y dref.
Cynhaliwyd yr astudiaeth hon er mwyn llywio cynigion ar gyfer adfywio'r glannau, sy'n rhan allweddol o leoliad Safle Treftadaeth y Byd y castell a muriau'r dref. Mae hefyd yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i ddatblygiad hanesyddol a nodweddion y dref gyfan, ac yn ffynhonnell gwybodaeth ar gyfer cynllunio a rheoli, ac ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu mwy am Gaernarfon a'i glannau.
6. Cefn Mawr a'r Cylch
Mae nodweddion trefol yn diffinio cymeriad hanesyddol nodedig trefi unigol — yr hyn sy'n gwneud pob lle yn arbennig.
Mae'n ystyried sut y caiff hanes tref ei fynegi yn ei chynllun a'i thirwedd, a'i thraddodiadau adeiladu.
Gyda'r wybodaeth hon, gallwn wneud penderfyniadau cynllunio gwell ac adfywio ein canolfannau trefol er mwyn i ni ddiogelu'r hyn sy'n eu gwneud yn wahanol.
Diben uniongyrchol yr astudiaeth hon o Gefn Mawr a'r cylch yw llywio polisïau cynllunio a mentrau adfywio yng nghyffiniau safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte nawr ac yn y dyfodol.
7. Dinbych
Ochr yn ochr â'r castell ar ben y bryn, mae muriau tref Dinbych. Dim ond nifer fach o adeiladau a welir o fewn y muriau bellach, ac mae'r dref go iawn wedi ymestyn y tu hwnt iddynt. O ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, roedd dau anheddiad yma eisoes, un o fewn y muriau a'r llall y tu allan iddynt. Dirywiodd y dref o fewn y muriau yn raddol, tra bod y dref y tu allan i'r muriau wedi ffynnu a thyfu. Gwelwyd datblygiadau cynnar o amgylch marchnadle i ddechrau, ond dechreuwyd codi adeiladau ar y man agored hwn erbyn dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg. Ar gyrion y man hwnnw, ac i lawr y bryn hir a adnabyddir bellach fel Stryd y Dyffryn, cynlluniwyd y datblygiadau'n fwy ffurfiol mewn lleiniau rheolaidd. Mae Dinbych yn cynnwys rhai adeiladau cynnar nodedig, yn dai trefol a siopau, ac mae ei ffyniant parhaus fel tref farchnad ranbarthol wedi gadael etifeddiaeth o adeiladau coeth o sawl cyfnod. Mae'r hanes hir hwn o adeiladu yn rhoi amrywiaeth sylweddol i'r treflun gyda chymysgedd ddiddorol o wahanol fathau o adeiladau a deunyddiau adeiladu. Gyda'i lleoliad trawiadol ar ben y bryn, mae Dinbych yn dref ddiddorol i grwydro drwyddi.
Paratowyd yr astudiaeth i ddarparu fframwaith a fyddai'n dwyn ynghyd fentrau unigol, yn cynnwys Menter Treftadaeth Treflun, ac yn gosod cyd-destun ar gyfer arolygon manwl o adeiladau unigol. Mae'n rhoi cyflwyniad i gymeriad hanesyddol y dref gyfan, yn llinell sylfaen ar gyfer cynllunio a rheoli, ac yn ffynhonnell wybodaeth i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am Ddinbych.
8. Dolgellau
Yng nghanol Dolgellau mae anheddiad Cymraeg canoloesol, a ddatblygodd i fod yn farchnad a chanolfan fasnachu lewyrchus ac yn un o ganolfannau'r diwydiant gwlân, cyn dod yn lle pictiwrésg poblogaidd ar gyfer ymwelwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adlewyrchir gorffennol canoloesol a masnachol Dolgellau yn strwythurau rhyfeddol canol y dref, lle mae'r adeiladau'n llenwi leiniau afreolaidd o dir, wedi'u rhannu gan lonydd ac aleau troellog sy'n agor allan yn sydyn ar fannau agored. Cyflwynwyd y nifer fach o linellau syth a welir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn ceisio rhoi trefn ar y cynllun trefol hwn sy'n ymddangos fel pe bai wedi digwydd ar hap a damwain. Ceir adeiladau o fathau gwahanol wedi'u gwthio i mewn, gyda thai trefol, gweithdai, warysau a siopau yn taflu eu cysgodion dros fythynnod bychain. Ar gyrion canol y dref ceir filas gyda'u tiroedd eu hunain, a adeiladwyd wrth i'r dref ennill ei phlwyf fel cyrchfan ffasiynol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r cerrig adeiladu lleol yn unigryw, yn bennaf oherwydd maint anferthol rhai o'r blociau. Mae'n rhoi nodweddion cytûn i'r dref.
Paratowyd yr astudiaeth o Ddolgellau i gefnogi Menter Treftadaeth Treflun a oedd yn canolbwyntio ar yr ardal gadwraeth, ond mae'n rhoi cyflwyniad i nodweddion y dref gyfan ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu mwy am Ddolgellau.
9. Y Fflint
ae'r Fflint yn dref fodern gyda gorffennol hynod ddiddorol. Hon oedd y dref â chastell gyntaf i gael ei chreu gan y Brenin Edward I ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a gellir olrhain amlinell y dref arfaethedig ger y castell yn glir yn y strydlun modern. Roedd y Fflint yn dref fach a drawsnewidiwyd gan ddiwydiannu, a gefnogodd ailadeiladu a thwf o fewn terfynau'r dref ganoloesol i ddechrau, ac yna ehangu graddol y tu hwnt i'r terfynau hynny. Er i lawer o adeiladau hŷn y dref gael eu dymchwel yn sgîl ailddatblygiad yn yr ugeinfed ganrif, mae'r prif strydoedd yn dal i gynnwys enghreifftiau da o adeiladau o ddechrau'r 1800au i ganol yr ugeinfed ganrif, ac yn aml mae'r maestrefi'n cadw nodweddion unigryw eu cyfnod.
Mae gan y dref hanes hir a dynamig, a gellir gweld olion cyfnodau gwahanol yn glir yn nodweddion unigryw'r dref. Paratowyd yr astudiaeth hon i gefnogi Menter Treftadaeth Treflun a oedd yn canolbwyntio ar ganol y dref, ond mae'n rhoi cyflwyniad i gymeriad y dref gyfan, fel llinell sylfaen ar gyfer gweithgarwch cynllunio ac adfywio arall.
10. Hafod a Chwm Tawe Isaf
Mae Hafod a Chwm Tawe isaf yn cael eu dathlu, yn haeddiannol ddigon, fel cartref y diwydiant copr yn y DU a safle gweithfeydd a arferai fod o arwyddocâd byd-eang. Cafodd y diwydiannau eu hunain eu cysylltu yn y pen draw â systemau a llwybrau trafnidiaeth hanesyddol, a ddarparai rwydwaith o gysylltiadau lleol a chysylltiadau ymhellach i ffwrdd. Hefyd, roedd cysylltiad agos rhyngddynt ag aneddiadau a gynlluniwyd ac a adeiladwyd ar gyfer eu gweithwyr, gydag ysgolion, eglwysi a chapeli ochr yn ochr â nifer lawn o dai. Gyda’i gilydd, ffurfiai’r elfennau hyn dirwedd ddiwydiannol integredig ryfeddol a oedd yn dystiolaeth rymus o economi ddiwydiannol a ffordd ddiwydiannol o fyw.
Yn hanesyddol, roedd yr ardal wedi’i threfnu’n dynn: cynlluniwyd safleoedd diwydiannol ar gyfer prosesau penodol, a oedd wedi’u cysylltu’n fanwl gan drafnidiaeth ffordd, rheilffordd a dwˆ r ar gyfer cyflenwi ac anfon nwyddau. Roedd cysylltiad agos rhyngddynt ag aneddiadau a oedd wedi’u cynllunio’n gydlynol eu hunain. Mae egwyddorion y drefniadaeth hon wedi cael eu niweidio, ond nid eu colli’n llwyr, gan waith adnewyddu ôl ddiwydiannol, ac mae cyfleoedd i sicrhau y bydd gweithgarwch cynllunio ac ailddatblygu yn y dyfodol yn eu hatgyweirio ac yn eu hatgyfnerthu. Roedd yr egwyddorion sylfaenol hyn yn rhan o gymeriad unigryw yr ardal — argraff ffisegol bwerus hanes diwydiannol o bwysigrwydd byd-eang.
Mae modd defnyddio’r astudiaeth hon i gynorthwyo gyda chynlluniau adnewyddu a datblygiad yn yr ardal. Bydd hyn yn sicrhau fod yma ddealltwriaeth o’r cyd-destun ffisegol a hanesyddol a sut mae’r cyfan yn cysylltu â’i gilydd.
Mae’n gyfle da i bawb sydd am wybod mwy am hanes a chymeriad hanesyddol yr Hafod a rhan isaf Cwm Tawe.
11. Caergybi
Sicrhawyd ffyniant Caergybi fel tref gan ei rôl fel porthladd cenedlaethol, sydd wedi’i chyfuno mewn cyfres o osodiadau trawiadol sy’n gymesur â’i statws fel porthladd swyddogol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gosodiadau’r harbwr, uwchlaw popeth arall, sy’n rhoi ei natur unigryw i Gaergybi.
Y morglawdd mawr yw’r morglawdd hiraf ym Mhrydain ac mae’n gamp peirianyddol gwych sy’n dystiolaeth rymus o bwysigrwydd masnach forol.
Ond mae gan Gaergybi hanes sy’n ymestyn yn ôl ymhell cyn iddi ddod yn enwog fel porthladd. Mae olion y gaer Rufeinig a’r eglwysi canoloesol yn dystiolaeth o’i phwysigrwydd mewn cyfnodau cynharach, ond o’r braidd y gallai hawlio teitl tref tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Buddsoddiad yn yr harbyrau a ysgogodd dwf trefol cyflym. Mae ffurf a chynllun Caergybi yn dangos pa mor gyflym y tyfodd: nid yw caelun eithriadol byth yn bell o dan y strydoedd. Sicrhaodd cyflymder datblygiad y dref unffurfiaeth o ran patrwm adeiladau, ond cyfrannodd cymhlethdod cymdeithas y dref borthladd amrywiaeth at y mathau o adeiladau. Er bod cenedlaethau o waith adnewyddu wedi erydu llawer o’r manylion, mae llawer i’w weld o hyd ac mae hadau natur unigryw a wahaniaethai rhwng y naill stryd neu res a’r llall i’w gweld o hyd.
Mae Caergybi yn borthladd gweithredol, ond mae hefyd yn dref hanesyddol: mae seilwaith hanesyddol y porthladd a’r dref yn ased sy’n haeddu cael ei gydnabod yn fwy.
12. Llangollen
Mae Llangollen yn adnabyddus fel tref fechan ag adeiladau brics coch godidog a sylweddol ar lannau afon Dyfrdwy. Ymhlith ei rhinweddau mae’r bont, y rheilffordd dreftadaeth, y gamlas, Plas Newydd — cartref Merched Llangollen — a safle Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Y tu hwnt i’r nodweddion unigol hyn mae hanes dyfnach o dref hyˆn â strydoedd troellog a lonydd bach ag adeiladau carreg a phren.
Mae olion yr hanes cyfoethog hwn wedi goroesi ar ffurf y patrymau stryd ac adeiladau, sy’n creu nodweddion unigryw Llangollen. Gyda’i gilydd, maent yn helpu i adrodd stori trawsnewid tref wledig fach yn gyrchfan i ymwelwyr yn y cyfnod Sioraidd a llwyddiant a methiant tref ddiwydiannol ffyniannus Fictoraidd . Mae ei thrawsnewidiad fel canolfan i ymwelwyr yn yr 20fed ganrif yn dibynnu ar y cymeriad hanesyddol hwn, a ddylai gael ei ddiogelu a’i barchu er budd trigolion ac ymwelwyr y dyfodol.
Nid yw’r astudiaeth hon o nodweddion hanesyddol Llangollen wedi’i chyfyngu i’r ardal gadwraeth ac mae’n amrywio o’i rhannau cynharaf i ddatblygiadau mwy modern. Gellir defnyddio’r astudiaeth hon i lywio datblygiad yn y dyfodol o fewn y dref a’r cyffiniau. Dylai helpu i lywio’r gwaith o reoli newid mewn adeiladau rhestredig ac anrhestredig o fewn yr ardal gadwraeth yn ogystal â gweithredu fel canllaw ar gyfer materion dylunio yn yr ardal gadwraeth a thu hwnt.
Mae cymaint o elfennau diddorol i rywun sydd am ddysgu mwy am hanes a chymeriad hanesyddol Llangollen.
13. Merthyr Tuful
Tref fwyaf Cymru a phrifddinas haearn a dur y byd – dyna oedd Merthyr Tudful ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda’r chwyldro diwydiannol wedi’i ganoli ar gynhyrchu haearn ar raddfa fawr, crëwyd tirwedd ddiwydiannol ynghyd ag economi a chymdeithas drefol gymhleth yma. Bu cwymp economaidd yn sgil dirywiad y diwydiant haearn a’r mentrau cysylltiedig yn yr ugeinfed ganrif, a gadawodd gwaith ailddatblygu ei ôl niweidiol ar hanes a threftadaeth falch y fro. Mae tref Merthyr, fodd bynnag, wedi llwyddo i gadw’i threftadaeth ddiwydiannol gref a’r diwylliant trefol a ddatblygodd yn sgil hynny.
Mae gwaith adfywio eisoes wedi dechrau canolbwyntio ar drwsio ac ail-adfer llwybrau a llinellau cyflenwi hanesyddol, ar y treflun a rhai o brif adeiladau’r dref. Bydd yr astudiaeth hon o gymeriad hanesyddol y dref yn helpu i lywio mentrau adfywio pellach ym Merthyr Tudful, gan gynnwys Menter Treftadaeth Treflun yng nghanol y dref. Mae’r astudiaeth hefyd yn archwilio cymeriad hanesyddol llawer o’r cyffiniau gan gynnig sylfaen ar gyfer cynllunio strategol a rheolaeth leol hefyd.
Mae cymaint o elfennau diddorol i rywun sydd am ddysgu mwy am hanes a chymeriad hanesyddol Merthyr Tudful.
14. Penfro
Mae Penfro yn dref unigryw ac anghyffredin, gyda chyfoeth o hanes a phensaernïaeth haenog sy’n dyddio’n ôl i’w dechreuadau.
Rhan o anheddiad caerog Normanaidd oedd y dref i gychwyn, gydag un stryd hir â lleiniau bwrdais canoloesol cul o’i phoptu. Mae rhai o’r adeiladau cynharaf ger y castell wedi goroesi hyd heddiw, eraill o’r golwg dan newidiadau diweddarach o bosib. Mae eu gwaith carreg moel yn amlwg, ond mae datblygiad y dref gynnar o’r cyfnod Sioraidd ymlaen wedi cyflwyno cymeriad stwco a rendrad lliw i Benfro, sy’n adlewyrchu’i thwf yn y ddeunawfed ganrif o fod yn dref ganoloesol wedi’i hesgeuluso i fod yn ganolfan fasnach ranbarthol.
Gwelodd y dref dwf pellach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg diolch i fwrlwm Doc Penfro gerllaw, a bu datblygiadau pellach yn sgil ffyniant cynyddol ac addasiadau masnachol. Mae canol y dref yn ganoloesol, fodd bynnag, gydag adeiladau diweddarach yn dilyn cynllun a phatrwm y lleiniau canoloesol.
Mae’r astudiaeth hon o Benfro yn cynnwys yr ardal gadwraeth, Monkton ac ardaloedd o ddatblygiadau diweddarach i’r de a’r gogledd o’r dref. Rhagwelir y bydd yn cael ei defnyddio gan swyddogion cynllunio, datblygwyr, perchnogion tai ac eraill â diddordeb wrth ystyried datblygiadau o fewn Penfro a’r cyffiniau, er mwyn cynnal a gwella cymeriad y dref.