Skip to main content

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Cyflwynwyd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 gerbron Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2022, fe’i pasiwyd ar 28 Mawrth 2023 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 14 Mehefin 2023.

Dyma’r ddeddfwriaeth gydgrynhoi gyntaf yn rhaglen bum mlynedd ddechreuol Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae’r darn hanesyddol hwn o ddeddfwriaeth yn darparu cyfraith gwbl ddwyieithog, drefnus a hygyrch ar gyfer diogelu a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol unigryw yn effeithiol fel y gall barhau i gyfrannu at lesiant Cymru a’i phobl.

Mae testun llawn Deddf 2023 ar gael ar wefan y Senedd ac ar legislation.gov.uk.

Hefyd ar gael ar legislation.gov.uk mae’r dogfennau ategol a fydd yn eich helpu i ddeall yn well y ddeddfwriaeth a’r ffordd y cafodd ei drafftio:

  • Nodiadau esboniadol — sylwebaeth benodol ar ddarpariaethau y dylid eu darllen ar y cyd â’r Ddeddf
  • Nodiadau’r drafftwyr — sylwadau ar benderfyniadau a wnaed wrth ddrafftio’r Ddeddf
  • Tabl tarddiad — ffynhonnell ddeddfwriaethol y darpariaethau yn y Ddeddf
  • Tabl cyrchfannau — lleoliad darpariaethau yn y ddeddfwriaeth bresennol yn y Ddeddf.

Er bod y Ddeddf wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, ni fydd yn dod i rym hyd nes y bydd is-ddeddfwriaeth ategol wedi ei gwneud a chanllawiau a dogfennau gweinyddol wedi eu hadolygu a’u diweddaru i adlewyrchu ei phasio. Disgwylir y bydd y Ddeddf yn dod i rym yn ystod ail hanner 2024. Bydd Cadw yn hybu ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth newydd ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r dyddiad y bydd yn dod i rym.

Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar weithrediad y Ddeddf, tanysgrifiwch i'n Diweddariad ar yr Amgylchedd Hanesyddol