Skip to main content

Mae’n 1487 ac mae Harri VII (Harri Tudur) wedi bod yn frenin am bron i ddwy flynedd ond mae llawer sy'n dymuno'r gwaethaf iddo ef a'i ddilynwyr. Ymunwch â ni yng nghastell Rhaglan i ddarganfod pwy sydd wedi cyflawni'r gweithredoedd llwfr hyn a pham.  

Byddwch yn dditectif a helpwch i ddatrys y drosedd a dod â’r troseddwr/wyr o flaen eu gwell gyda gwobr i’r sawl sydd wedi datrys y dirgelwch a’r rheswm pam.

Gwersyll hanes byw, arfau ac arfwisgoedd ac arddangosfeydd eraill trwy gydol bob dydd.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. 

Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£10.00
Teulu*
£31.90
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£7.00
Pobl hŷn (Oed 65+)
£9.20

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).
 

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Rhaglan