Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Arferai fod yn dafarn, â seler, stabl ceffylau a llofft wair.

Adeilad o gyfnod cynnar neu ail chwarter y 19eg ganrif gyda ffasâd ac iddo nodweddion diwedd y 19eg ganrif; adferwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wedi'i restru oherwydd ei ddiddordeb arbennig fel adeilad cornel amlwg o'r 19eg ganrif sy'n dal â chymeriad allanol da. Saif oddi mewn i ardal gadwraeth y Dref. Mae mynedfa ganolog yn arwain at gwrt cefn, gyda'r mynedfeydd i rifau 12 a 14 yn arwain i'r chwith a'r dde yn y drefn honno. Mae gan ddrychiad Stryd y Parc fynedfa i'r dde eithaf. Ar hyn o bryd mae Alison’s Clothing Alterations, Bridge Park Candle Company, Cariad Balloons a Party Talo Holistic Counselling, Ceris Gratton-Jones Pilates Fitness Yoga yn defnyddio’r eiddo.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi 2026  gyda thaith hunan-yrru o amgylch y fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brwcws ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi 2026, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn www.darganfoddinbych.cymruhttps://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire

Rhif 12 a 14 Sgwâr y Neuadd, Dinbych, LL16 3NU

Yng Nghanol y Dref. Mae bysus yn stopio ar y Stryd Fawr. Bysus 51 a 52 i Ddinbych.

Tu ôl i Lyfrgell Dinbych.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Med 2026
10:00 - 16:00
Sul 20 Med 2026
10:00 - 16:00