Skip to main content

Dyma hen fwthyn rhestredig Gradd 2 sydd wedi’i adeiladu o glom ac â’i do gwellt gwreiddiol wedi’i orchuddio gan dun. Dyma enghraifft brin o fwthyn Cymreig nodweddiadol o’r ardal sydd mewn cyflwr da ac ynddo ddodrefn o arddull lleol y cyfnod.

Yn ystod Drysau Agored, bydd te a chacen ar gael, yn ogystal â’r llyfr The Welsh Stick Chair, ac mae’n bosibl y bydd dodrefn ac ambell eitem arall o stoc ar gael i’w prynu. 

Mae Henllan Amgoed yn enwog am ei chysylltiadau cynnar â mudiad yr annibynwyr.

Bydd angen cadw lle - bychan yw’r bwthyn ac nid oes llawer o le parcio. 
E-bost- betsan@timbowenantiques.co.uk

Cyfeiriad - 2 Clun Cottages, Henllan Amgoed, ger Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, SA34 0SN.

Cyfarwyddiadau - Mae Henllan Amgoed tua 2 filltir i'r gogledd o Hendy-gwyn ar Daf, sydd â gorsaf ar y brif lein. Mae’r pentref ar y ffordd tuag at Lanboidy, rhyw hanner milltir i'r gogledd o Gwmfelin Boeth.
Mae 2 Clun Cottages ar y gornel wrth y groesffordd. Mae'r hen ysgol gyferbyn ar Ffordd Llanfallteg ac mae'r hen efail, sydd bellach yn dŷ modern, ar y gornel gyferbyn ar Ffordd Llanboidy.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
11:00 - 16:00