Drysau Agored - 44 Stryd y Dyffryn, Bwthyn Mostyn
Tŷ gradd 2 gyda sawl llawr o’r 18fed ganrif, er bod adeilad cynharach ar y safle mae’n debyg, wedi'i osod yn ôl o'r stryd y tu ôl i flaen-gwrt mawr a chanddo furiau uchel. Mae wal uchel y blaen-gwrt, sydd siŵr o fod yn tarddu o ddechrau’r 18fed ganrif, yn garreg nadd wedi ei sgwario a chopinau gwastad. Mae pâr o bileri gyda'r un copinau yn y blaen. Credir mai stablau oedd yr adeilad yn wreiddiol ynghyd ag adain wasanaethu ar gyfer Tŷ Mostyn sydd wrth ei ymyl, sef tŷ tref y teulu Mostyn yn y 18fed ganrif. Bydd y perchennog ar gael i ateb cwestiynau ar deithiau o’r tu allan i'r eiddo ar amseroedd penodol .
Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2025 yn lansio ddydd Gwener 19 Medi 2025 gyda darlith gyda'r nos yn archwilio gweithredoedd eiddo yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod nesaf, dydd Sadwrn a dydd Sul 20 a 21 Medi 2025 rhwng 10am a 5pm bydd dros dri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd, ynghyd â sgyrsiau a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd, sgyrsiau a theithiau tywys sydd â nifer cyfyngedig o leoedd ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at y penwythnos ei hun. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar: https://darganfoddinbych.cymru https://twitter.com/OpenDoors_D https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Teithiau allanol dan arweiniad perchennog yr eiddo am 10am a 3pm ddydd Sadwrn 20 Medi ac 11am ddydd Sul 21 Medi 2025
Rhaid archebu lle -
Gellir archebu teithiau drwy Lyfrgell Dinbych; bydd gwybodaeth ar gael ar https://darganfoddinbych.cymru
Gan fynd i lawr Stryd y Dyffryn o Ganol Tref Dinbych mae'r eiddo ar y dde toc ar ôl Mellings Lane. Defnyddiwch yr wybodaeth a roddir am y lleoliad ar eich dyfais electronig a'r map a ddarperir ar daflen Drysau Agored Dinbych 2025. ///what 3words: (CYM) ///prynodd.arhosiad.datrysol (ENG) ///revies.dancer.barbarian
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
10:00 - 12:00
|
Sul 21 Medi 2025 |
10:00 - 12:00
|