Drysau Agored - Adeilad yr Institiwt, Caernarfon
Adeiladwyd yr adeilad yn 1884, a'i brif nod oedd diwallu anghenion addysgol a diwylliannol y werin. Roedd yna ystafell ddarllen a llyfrgell ar y llawr gwaelod, darlithfa ar yr ail lawr ac ystafell gelf ar y trydydd. Roedd yna ddwy siop ar lefel y stryd, er mwyn cynhyrchu rhent i dalu costau cynnal a chadw'r adeilad. Yn 1912, ehangwyd yr institiwt i greu siambr cyngor ar y llawr cyntaf. Gellir gweld arddull Art Nouveau y cyfnod mewn nodweddion fel dolenni pres y drysau a'r gwaith pren. Ar lawr gwaelod yr estyniad, roedd yna lyfrgell ehangach, a daeth honno'n Llyfrgell y Sir yn new ymlaen. Yn y seler, roedd baddonau cyhoeddus y dref, ac roeddynt yn cael eu defnyddio mor ddiweddar a'r 60au. Cyfle i gwrdd a'r Maer a gweld rhai o greiriau a thrysorau'r dref. Cyfeiriad - Adeilad yr Institiwt, Allt Pafiliwn, Caernarfon, LL55 1AS. Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. |
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 26 Med 2026 |
10:00 - 13:00
|