Skip to main content

Codwyd yr adeilad fel ysgol Bwrdd Addysg Dinbych yn 1877, ac yn ddiweddarach daeth yn ysgol i ferched. Pan symudodd yr ysgol i Ffordd y Rhyl yn 1985, cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel llys ynadon am gyfnod, ac ers naw mlynedd mae wedi bod yn gartref i Amgueddfa Dinbych.

Ar hyn o bryd, mae yno arddangosfeydd ar hanes Dinbych yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ar hanes argraffu yn Ninbych.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma - 
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.

Amgueddfa Dinbych, Grove Rd., Dinbych, LL16 3UU. 
///what 3words: (CYM) ///datblygwr.cogydd.cynaeafau ENG) ///digit.about.wimp

O ganol y dref, ewch i lawr Stryd y Fro a throi i’r chwith gyntaf i mewn i Stryd y Capel; ar y diwedd, trowch i’r dde i mewn i Beacon’s Hill. Cerddwch 330m ac mae'r Amgueddfa ar eich chwith.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 16:00