Drysau Agored - Amgueddfa Parc Howard
Ysbrydoli'r dyfeiswyr nesaf yw'r nod yn Amgueddfa Parc Howard.
Mae'r arddangosfeydd newydd sbon yn arddangos rhai o'r syniadau a'r dyfeisiadau gorau sydd wedi deillio o Lanelli. Mae llawer o bobl yn gwybod am olwyn sbâr gyntaf y byd - y Stepney - ond oeddech chi'n gwybod bod sylfaenydd Specsavers wedi'i eni yn y dref? Mae Llanelli wastad wedi bod yn lle sy’n llawn newid ac arloesi.
Ac nid dyna'r cyfan. Fe'ch gwahoddir i archwilio, trafod a chwarae gyda'ch gilydd yn oriel Imaginarium, gan mai dyma'r ffordd orau o ddysgu a gwneud synnwyr o'r byd. Mae chwarae, dychymyg a chreadigrwydd wedi dylanwadu ar deganau, diwylliant poblogaidd a darganfyddiadau gwyddonol, hyd yn oed. Taniwch eich dychymyg drwy ddatrys pos y pyramid. Neu syllwch mewn rhyfeddod ar ddelweddau hardd y caleidosgop. Efallai y gwnewch chi hyd yn oed ddarganfod dirgelwch Ysbryd Pepper!
Darganfyddwch Amgueddfa Parc Howard ar ei newydd wedd!
I gael cyfle i archwilio casgliadau a straeon yr amgueddfa yn fwy manwl, ymunwch ag un o'r teithiau dan arweiniad arbenigwyr a phrofi ffordd newydd o fwynhau'r amgueddfa.
Mae nifer y lleoedd wedi'u cyfyngu i ddim ond 30 y dydd, felly peidiwch â cholli eich cyfle! Ewch i wefan CofGâr a dilynwch y ddolen archebu i sicrhau eich lle heddiw.
Rhaid archebu lle ar gyfer y teithiau. Bydd dwy daith am ddim, ar gyfer uchafswm o 15 o bobl yr un, ar gael bob dydd am 11am a 2pm. Bydd y teithiau’n para am oddeutu awr.
Bydd Amgueddfa Parc Howard ar agor i ymwelwyr rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod.
Gallwch archebu eich lle am ddim drwy:
Gwefan: https://cofgar.cymru/
Ebost: info@cofgar.wales
Ffôn: 01554 742220 (yn ystod oriau agor)
Wyneb yn wyneb
Cyfeiriad - Amgueddfa Parc Howard, Heol Felinfoel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3LJ.
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau i'r eiddo yma: https://cofgar.cymru/amgueddfa-parc-howard-arall/teithio-cynaliadwy/
Gellir dod o hyd i wybodaeth hygyrchedd am yr eiddo yma: https://cofgar.cymru/amgueddfa-parc-howard-arall/canllaw-hygyrchedd-amgueddfa-parc-howard/
Nid oes lle parcio yn yr amgueddfa, ond mae sawl maes parcio cyhoeddus o fewn pellter cerdded hawdd i'r amgueddfa.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Med 2025 |
11:00 - 15:00
|
Sul 14 Med 2025 |
11:00 - 15:00
|