Drysau Agored - Amgueddfa Sir Gâr
Mae amgueddfa’r sir yn adrodd straeon pobl, pŵer a phrotest ledled Sir Gaerfyrddin, o'r gweithiau celf a chrefft yr oeddent yn eu creu i’r offer a'r technegau yr oeddent yn eu defnyddio.
Mae’r amgueddfa wedi'i lleoli yn hen balas 700 mlwydd oed Esgobion Tyddewi, a chewch eich atgoffa o'r hanes hwnnw trwy gydol eich ymweliad. O gapel heddychlon i hen gegin dywyll, mae digon o bethau i’ch difyrru yn y Palas yn y Parc.
Mae’r arddangosfeydd parhaol yn adrodd hanes Sir Gaerfyrddin mewn orielau thematig, gan ddechrau gyda Phŵer, Pobl a Phrotest, a symud ymlaen i ystafell ysgol yn Oes Fictoria a chegin adeg yr Ail Ryfel Byd. Mae'r casgliadau’n arddangos popeth o grefftau ac arferion i ffermio a chelf gain.
Dewch i gael cip y tu ôl i’r llen yn Amgueddfa Sir Gâr!
I gael cyfle i archwilio casgliadau a straeon yr amgueddfa yn fwy manwl, ymunwch ag un o'r teithiau dan arweiniad arbenigwyr a byddwch ymhlith y bobl gyntaf i fwynhau'r amgueddfa yn y ffordd newydd hon.
Mae nifer y lleoedd wedi'u cyfyngu i ddim ond 30 y dydd, felly peidiwch â cholli eich cyfle! Ewch i wefan CofGâr a dilynwch y ddolen archebu i sicrhau eich lle heddiw.
Bydd dwy daith am ddim, ar gyfer uchafswm o 15 o bobl yr un, am 11am a 2pm. Bydd y teithiau’n para am oddeutu awr.
Bydd Amgueddfa Sir Gâr ar agor i ymwelwyr rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod.s.
Rhaid archebu lle ar gyfer y teithiau. Gallwch archebu eich lle am ddim drwy:
Gwefan: https://cofgar.cymru/
Ebost: info@cofgar.wales
Ffôn: 01267 228696 (yn ystod oriau agor)
Wyneb yn wyneb
Cyfeiriad - Amgueddfa Sir Gâr, Hen Balas yr Esgob, Abergwili, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 2JG.
Cyfarwyddiadau. Gweler https://cofgar.cymru/amgueddfa-sir-gar-arall/teithio-cynaliadwy-i-amgueddfa-sir-gar/am fanylion ynghylch sut i gyrraedd yr amgueddfa a https://cofgar.cymru/amgueddfa-sir-gar-arall/canllaw-hygyrchedd-amgueddfa-sir-gar/ am wybodaeth am hygyrchedd.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Med 2025 |
11:00 - 15:00
|
Sul 07 Med 2025 |
11:00 - 15:00
|