Skip to main content
 

Yr amgueddfa yw cartref plentyndod Syr Henry Jones (1852-1922) a ddaeth, o gefndir cyffredin, yn Athro Athroniaeth Foesol blaenllaw ym Mhrifysgol Glasgow ac yn ddylanwad mawr ar y system addysg yng Nghymru.

Ewch i'r amgueddfa ddiddorol hon am fywyd cefn gwlad Cymru a:
• Dysgwch am Henry Jones a hanes ei frwydr dros addysg
• Crwydrwch drwy'r gegin fechan a'r ystafell wely lle’r oedd y teulu o chwech yn bwyta ac yn cysgu
• Ewch i weld yr arddangosfeydd ar fywyd Fictorianaidd mewn cymuned Gymreig nodweddiadol
• Ymlaciwch yng ngardd y bwthyn, sy'n cael ei hadfer.

Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn bodoli er mwyn coffáu llwyddiannau Syr Henry Jones, a dehongli ei fywyd yng nghyd-destun cymuned Gymreig wledig yn y 19eg ganrif. Gwneir hyn trwy gasgliadau amgueddfa, arddangosfeydd a deunyddiau addysgol.

Bydd gwirfoddolwyr wrth law i dywys ymwelwyr o gwmpas a bydd lluniaeth ar gael.

Gall ymwelwyr hefyd ddysgu am fannau eraill o ddiddordeb yn y pentref, gan gynnwys y capeli, yr eglwys, yr ywen y tybir mai hi yw’r peth byw hynaf yn Ewrop, llwybr y Pererinion a Hafodunos.

Dim angen archebu.

Cyfeiriad: Amgueddfa Syr Henry Jones, Y Cwm, Llangernyw, Abergele, Conwy, LL22 8PR.

Cyfarwyddiadau - Cymerwch y ffordd fawr A548 o Lanrwst am Abergele. Mae pentref Llangernyw tua 8 milltir oddi yma. Mae'r Amgueddfa ar yr ochr chwith yng nghanol y pentref. 

 

Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
14:00 - 16:30