Skip to main content

Efail a adeiladwyd yn bwrpasol ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn ôl pob tebyg, ac yn gartref i Anvil Pottery ers 1981. Erbyn hyn mae'n arbenigo mewn crochenwaith caled wedi eu taflu â llaw a chrochenwaith pridd gyda phwyslais ar ddefnydd yn hytrach nag addurn. Mae'n bosib prynu crochenwaith yn uniongyrchol o'r safle. Mae wedi gwneud atgynyrchiadau canoloesol ar gyfer amgueddfeydd, cymdeithasau ailgreu a ffilmiau. Mae hyn yn cynnwys llestri gwasael, jygiau cynhaeaf, mygiau pridd a Nwyddau Buckley.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/

 https://twitter.com/OpenDoors_D and https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Smithy Cottage, Llanrhaeadr, LL16 4NL ///what3words:  (ENG) director.escapades.parsnip  (CYM) garw.diog.perimedr


Prisiau

Am Ddim
Categori Price

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00