Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu awdurdodau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Mae’n casglu ac yn cadw dogfennau cyhoeddus o’r ardal yn dyddio o’r 12fed ganrif hyd heddiw ac yn sicrhau eu bod ar gael. Cedwir dros 12km o ddogfennau yn ystafelloedd sicr y cyfleuster pwrpasol.
Dewch draw i ddarganfod beth mae archifdy yn ei wneud, a sut mae'n gweithio.
Bydd teithiau tu ôl i’r llen yn dechrau am 10yh, 11.30yh, 12.30yh a 2yh. Rhaid archebu lle. Cysylltwch â ni i archebu eich lle am ddim -
E-bost: glamro@cardiff.gov.uk
Ffôn: 029 2087 2299
Bydd cyfle i gwrdd ag aelodau o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg bydd ar gael i ateb eich cwestiynau hanes teulu. Bydd y Gymdeithas yn cyflwyno dwy sgwrs am ddim – does dim angen cadw lle ar gyfer y sgyrsiau, felly galwch mewn -
11am - Ymchwilio i Hanes eich Teulu Gwyddelig
2pm - Adnoddau Ar-lein ar gyfer Hanes Teulu Cymreig a Saesnig: Beyond Ancestry a Find My Past
Archwiliwch ddogfennau sy’n cofnodi cannoedd o flynyddoedd o hanes Morgannwg. A dysgwch fwy am y gwaith hynod ddiddorol sy’n digwydd yn ein stiwdio gadwraeth.
Bydd staff wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad ar sut i ddechrau a pharhau â’ch ymchwil.
Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Leckwith, Caerdydd, CF11 8AW.
Mae cyfarwyddiadau ar gyrraedd yr Archifau, gan gynnwys map, ynghyd â manylion trafnidiaeth gyhoeddus a mannau parcio ar gael yn:
https://glamarchives.gov.uk/visiting-us/
Mae parcio am ddim ar gael ar y safle.
Mae adeilad Archifau Morgannwg yn gwbl hygyrch. Bydd y teithiau tywys yn symud o gwmpas adeilad. Mae’r llwybr yn addas i gadeiriau olwyn a bydd seddau i’w cael ym mhob man lle bydd y daith yn stopio. Os oes gennych unrhyw bryderon am fynediad, dywedwch wrth y staff wrth archebu.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
10:00 - 15:30
|