Mae Archifdy Caernarfon wedi ei leoli ar ochr Doc Fictoria yn nhref Caernarfon. Mae'r Archifdy yn gwarchod dros 800 mlynedd o hanes yr ardal. Mae’r casgliad yn cynnwys dogfen yn dyddio yn ôl i 1177 a llythyrau wedi eu harwyddo gan Siarl y 1af ac Oliver Cromwell yn ogystal a dyddiaduron, llythyrau, gweithredoedd, cofrestrau plwyf, papurau newydd, lluniau a mapiau ac yn adlewyrchu hanes cyfoethog y sir.
Dewch i ymweld âg Archifdy Caernarfon i gael cyfle i weld tu ôl I’r llen a gweld sut ydym yn cadw dogfennau a sut ydym yn mynd ati i warchod y casgliadau sydd yn ein gofal. Bydd cyfle hefyd i weld dogfennau sydd yn berhtnasol i tref Caernarfon.
Cyfeiraid: Archifdy Caernarfon, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1SH.
O’r de neu’r gogledd ar hyd yr A487 pan gyrhaeddwch gyrchfan ar waelod y ffordd osgoi dilynwch yr arwyddion tuag at Doc Fictoria / Archifdy / Galeri.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|