Mae Bryn y Parc yn adeilad rhestredig Gradd 2* ac mae'n dŷ tref cynnar pwysig o ganol yr 16eg ganrif.
Mae'r pren yn y rhan hynaf o'r tŷ yn dyddio nôl i 1540 ac mae'r pren yn yr estyniadau diweddarach yn dyddio nôl i hyd at 1580.
Mae'r adeilad wedi dioddef o tan yn 2002. Mae gwaith cadwraeth ac adfer gan y perchenog wedi troi'r adeilad mewn i llety newydd.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi 2026 gyda thaith hunan-yrru o amgylch y fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brwcws ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi 2026, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn www.darganfoddinbych.cymru a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire
Cyfeiriad: Bryn y Parc, Park Street, Dinbych, LL16 3DB.
Mae gatiau'r fynedfa ar ôl yr ail eiddo ar y dde wrth i chi deithio i lawr Lôn Parc o Sgwâr y Neuadd.
. ///what 3words: (CYM) ///cobl.galluogi.pwysau (ENG) ///goat.pans.whisk
Mae gwasanaethau Bysiau 51/51b ac X51 yn gweithredu o'r Rhyl a Wrecsam i Ganol Tref Dinbych.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|