Skip to main content

Mae Springfield House yn adeilad Gradd ii wedi’i rhestru, sy’n agos i Barc Sant Iago yn ardal hanesyddol Ffynone.

Mae’r eiddo wedi newid dwylo sawl gwaith ers ei adeiladu yn yr 1860au, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel canolfan fyfyrio Bwdïaidd sy’n cynnal dosbarthiadau, cyrsiau ac encilion ar gyfer y gymuned Fwdïaidd leol a’r cyhoedd.

Dyma wahoddiad i’n Diwrnod Agored blynyddol fel rhan o Drysau Agored. Dewch i gael blas ar sesiwn myfyrdod, taith o amgylch yr adeilad rhestredig Gradd 1 hanesyddol, ac ymlacio gyda phaned a chacen yn y caffi neu’r gerddi tawel. Dewch gyda’ch ffrindiau a'ch teulu, neu galwch draw ar eich pen eich hun.

Mae croeso i bawb. Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.

Cyfeiriad - Canolfan Myfyrio Kadampa Cymru, Springfield House, Heol Ffynone, Uplands, Abertawe, SA1 6DE.

Lleoliad - pum munud o gerdded o Heol Walter, ar dop Gerddi Sant Iago. 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 15:00