Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae’r Ganolfan Dreftadaeth wedi’i lleoli ar safle diogel Pencadlys yr Heddlu; felly, mae ymweliadau drwy drefniant ymlaen llaw yn unig. 

Cafodd y safle ei adeiladu’n wreiddiol ar ddiwedd y 1930au ar gyfer yr Ail Ryfel Byd, a hwn oedd y ffatri arfau mwyaf yn y DU pan oedd ar ei anterth.

Ar gyfer Drysau Agored, bydd teithiau y tu allan i ddyddiadau/amseroedd arferol ar gael drwy gydol yr wythnos. Yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau gwahanol drwy gydol y teithiau, fel gwisgo i fyny, rhoi cynnig ar fod yn dditectif a hefyd cymryd rhan mewn casglu tystiolaeth ar safle trosedd.

Mae’r teithiau am 10am a 2pm.

Angen archebu. E-bost – policeheritage@south-wales.police.uk

Fel arall, ffoniwch 01656 761 855, ond e-bost yw'r dull cysylltu a ffefrir.

Wrth archebu, rhowch oedran y plant, cyfanswm yr oedolion a’r plant, a ph’un a oes gan unrhyw un anghenion symudedd neu ofynion ychwanegol eraill (i fodloni’r anghenion hyn orau). Efallai y bydd y safle'n gallu cynnig sesiwn niwroamrywiol gyda niferoedd is ac ati.
Mae'n ofynnol i'r sawl sy'n archebu, ac sydd felly'n cymryd cyfrifoldeb am eu grŵp, ddod â'r ID ffotograffig diweddaraf (pasbort neu drwydded yrru).

Cyfeiriad – Canolfan Dreftadaeth Heddlu De Cymru, Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU. 

Mae safle bws y tu allan i'r Pencadlys ar Heol y Bont-faen.
Mewn car - mae'r safle wedi'i leoli ychydig oddi ar goridor traffordd yr M4.
Mae gan orsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr safle tacsi y tu allan iddi lle gallwch gael eich gyrru i'r Pencadlys mewn llai na 10 munud.
Mae cerdded o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd tua 20/30 munud, yn dibynnu ar eich cyflymder ac ati.

Mae prinder llefydd parcio am ddim ar y safle diogel, ond mae digon o lefydd parcio yn y lleoliad siopa gyferbyn, ond byddwch yn ofalus o unrhyw gyfyngiadau amser.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Llun 08 Medi 2025
10:00 - 16:00
Maw 09 Medi 2025
10:00 - 16:00
Mer 10 Medi 2025
10:00 - 16:00
Gwen 12 Medi 2025
10:00 - 16:00