Drysau Agored - Capel Mawr, Dinbych
Codwyd y Capel Methodistaidd hwn yn wreiddiol yn 1793. Ailadeiladwyd Capel Mawr yn 1829, ac ychwanegwyd ystafell ysgol a festri yn 1867. Mae'r capel presennol, o 1880, wedi'i adeiladu yn arddull Glasurol y fynedfa ‘wal hir’, a gall ddal oddeutu mil o bobl. Fe'i dyluniwyd gan y pensaer Richard Owen (Lerpwl), gyda newidiadau pellach gan y pensaer Richard Davies (Bangor) yn 1892. Gosodwyd yr organ yn 1905. Mae Capel Mawr yn Adeilad Rhestredig Gradd 2, a hynny gan ei fod yn enghraifft arbennig o gapel o ddiwedd y 19eg ganrif, sydd â’i gymeriad gwreiddiol wedi’i gadw ac yn hardd oddi mewn.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma -
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Nid oes angen archebu lle.
Stryd y Capel, Rhiw’r Bigwn, Dinbych, LL16 3SP.
///what 3words: (CYM) ///llwyo.esgusodi.ailgysylltu (ENG) ///irrigate.unloaded.basis
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 21 Medi 2024 |
12:00 - 16:00
|