Skip to main content

Adeiladwyd y capel Presbyteraidd Cymraeg hwn, a oedd yn gartref i'r Methodistiaid Calfinaidd yn wreiddiol, gan Thomas Williams ym 1889-91. Y gweinidog bryd hynny oedd y Parchedig Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan), ffigur enwog a fu’n dadlau achos y Gymraeg a thros hunanlywodraeth i Gymru. Y Gymraeg yw iaith yr addoli yn Y Tabernacl hyd heddiw. Mae’r seddi y tu mewn wedi’u trefnu’n siâp pedol. Mae gan y capel ffenestri treswaith o dan do trawst gordd eang ac mae yno amrywiaeth drawiadol o bibellau organ. Mae'r pwysigrwydd a roddir ar bregethu yn cael ei bwysleisio gan y pulpud addurnedig ac oddi tano mae ‘Sêt Fawr’ y Blaenoriaid. 

Mae’r capel yn cynnwys gwaith cwiltio hardd gan yr artist tecstilau lleol Bethan Hughes, wedi’i hysbrydoli gan Fryniau Clwyd gerllaw. Mae’r gwaith cwiltio hardd yn y capel yn cysylltu â gwaith arall gan Bethan Hughes, a fydd yn cael ei arddangos fel rhan o benwythnos Drysau Agored Rhuthun 2024.

Noder - cynhelir gwasanaeth yn y capel ar fore Sul (8 Medi), wedyn bydd y capel ar agor am hanner dydd fel rhan o Ddrysau Agored. Mae croeso i chi fynychu’r gwasanaeth.

Dim angen archebu.

Mae’r Tabernacl ar Stryd y Ffynnon, yn agos iawn at ganol Rhuthun - LL15 1AF. Mae safleoedd bws ar Heol Wynnstay a Stryd y Farchnad gerllaw.

Mae ambell step wrth y fynedfa


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00