Skip to main content

Wedi’i adeiladu yn y 13eg ganrif fel caer ganoloesol, mae’r castell a’r gerddi a welwch heddiw yn adlewyrchu uchelgeisiau a gweledigaeth newidiol teulu Herbert, a oedd yn meddiannu’r castell o’r 1570au. Wedi'i ddodrefnu â ffabrigau addurnol, paentiadau o'r radd flaenaf, dodrefn, tapestrïau, a chasgliad unigryw Clive o wrthrychau De Asia, mae'r tu mewn yn adlewyrchu cyfnod Elisabethaidd hyd at y cyfnod Edwardaidd.

Gyda golygfeydd o Ddyffryn Hafren, mae’r ardd fyd-enwog wedi cadw rhai o’i nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys terasau Eidalaidd o’r 17eg ganrif wedi'u leinio â borderi llysieuol bywiog a choed ywen 30 troedfedd wedi'u tocio, gardd Edwardaidd ffurfiol gyda choed afalau a gwelyau rhosod ganrif oed, a choetir heddychlon.

Mynediad am ddim i Gastell a Gardd Powis. 
Gerddi yn agor - 10am - 5pm; mynediad olaf am 4.30pm.
Mae'r castell yn agor am 11am; mynediad olaf am 3.30pm.

DS - mae gwaith cadwraeth a chynnal a chadw hanfodol yn parhau.

Cyfeiriad - Castell a Gerddi Powis, Red Lane, Y Trallwng, Powys, SY21 8RF.

Cyfarwyddiadau – ar y ffordd – ceir arwyddion o’r brif ffordd i’r Drenewydd (A483); ewch drwy’r giât gyntaf ar y dde. Sat Nav: Mae’r cod post yn eich camarwain. Chwiliwch am Powis Castle and Garden neu gallwch ddilyn yr arwyddion brown sydd â deilen derwen arno.
Ar droed – milltir o daith gerdded o Lôn Parc, oddi ar Stryd Lydan yn y Trallwng. Cewch fynediad o’r Stryd Fawr (A490).
Ar y bws – ceir gwasanaethau o Groesoswallt i’r Trallwng ac Amwythig i Lanidloes. Gadewch y ddau wasanaeth ar y Stryd Fawr. Cerddwch filltir o Lôn Parc, oddi ar Broad Street yn y Trallwng. Mynediad o'r Stryd Fawr (A490).

Llwybr heb risiau o amgylch yr ardd, llethrau serth a therasau heb eu ffensio. Dim mynediad heb risiau i'r castell ac Amgueddfa Clive.

Parcio am ddim.

Does dim angen archebu lle.


Prisiau

Am ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 17:00