Skip to main content

Ar bentir arfordirol, a amddiffynnir gan ffos ddofn a chlawdd pridd, mae safle adeilad mawr, unigol, y datgelwyd ei sylfeini yn ystod cloddio archeolegol yn y 1980au. Mae’n ymddangos mai’r môr oedd canolbwynt y safle yn hytrach na'r tir, a chredir iddo gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol cynnar, o bosibl gan Lychlynwyr.

Bydd ymwelwyr yn cael eu harwain ar daith o gwmpas y safle ac yn clywed am ei gloddio yn y 1980au gan y diweddar David Longley, cyn-Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Bydd y darganfyddiadau a wnaed a'r cwestiynau a godwyd gan y gwaith yn cael eu cyflwyno a daw’r daith i ben gydag esboniad byr o'r gwaith a wnaed yn ddiweddar, mewn partneriaeth â'r perchennog, 'cyfeillion y safle' yn lleol a sefydliadau, i glirio, sefydlogi a chyflwyno'r safle i'r cyhoedd.

Bydd teithiau yn dechre am 10.30, 13.00 and 15.00 ar Dydd Sadwrn y 14 a Dydd Sul y 15 o Medi.

Ychydig oddi ar Lwybr yr Arfordir, ger pen deheuol Traeth Trefadog, gellir ei gyrraedd trwy isffyrdd o Lanfaethlu, Caergybi, Ynys Môn. Cod post: LL65 4PE. Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr AO: SH 29092 85903.

 


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:30 - 15:00
Sul 15 Medi 2024
10:30 - 15:00