Drysau Agored - Castell Penrhyn
Mae wyneb carreg ddramatig Castell Penrhyn yn cuddio mwy na dim ond ei adeiladwaith brics mewnol. Mae’r bensaernïaeth unigryw, y mannau mewnol a’r gelf gain, yn eistedd ochr yn ochr â hanes am gyfoeth siwgr a llechi, aflonyddwch cymdeithasol, a’r anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.
Dewch i ddarganfod hanes Castell Penrhyn, ei ystafelloedd eang, ei risiau neo-Normanaidd a’i geginau Fictoraidd.
Mae’r tiroedd helaeth yn berffaith ar gyfer crwydro a mwynhau golygfeydd ysblennydd o Eryri ac arfordir gogledd Cymru.
Mae rhywbeth at ddant pawb ym Mhenrhyn; gallwch ddisgwyl yr annisgwyl yno.
Oriau agor ar gyfer Drysau Agored -
Castell. 10am - 4pm.
Ceginau Fictoraidd. 10am - 4pm.
Gardd. 10am - 4pm.
Siop. 10am - 4pm.
Caffi. 10:30am - 4:30pm.
Mynediad olaf am 3pm.
Does dim angen archebu.
Cyfeiriad - Castell Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HT.
Cyfarwyddiadau -
Gwasanaethau bws o Fangor a Caernarfon i Llandudno, mae milltir o gerdded o'r safle bws ar hyd dreif y castell.
Ar y ffordd tuag at Llandygai ar A5122. Mae arwyddion o gyffordd 11 ar yr A55. Ar gyfer Sat nav defnyddiwch LL57 4HT
Parcio am ddim, 500 llath.
Ar feic. NCN5, 1¼ miles
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 21 Medi 2024 |
10:00 - 16:00
|
Sul 22 Medi 2024 |
10:00 - 16:00
|