Drysau Agored - The Dreamatorium Plas Coch
Adeiladwyd Plas Coch yn 1605 gan ailddefnyddio tywodfaen coch o Gastell Rhuthun. Yn wreiddiol, dyma gartref Cwnstabl y Castell. Ers hynny mae wedi bod yn gartref i berchnogion gwestai ar ôl iddynt ymddeol, canwr opera proffesiynol, gwerthwr haearn a hyd yn oed aelod bonheddig lleol. Ym 1960, cafodd ei drawsnewid yn neuadd wledda ac yna'n westy, ac wedyn bu’n Glwb y Ceidwadwyr nes iddo gau yn sgil pandemig Covid. Bu’n wag wedyn nes iddo gael ei brynu gan berchnogion busnesau lleol, Tracey Dutton a Kevin Jones. Mae’r adeilad bellach wedi'i adnewyddu a'i adfer mewn ffordd sensitif iawn, gan ddatgelu llawer o nodweddion gwreiddiol.
Erbyn hyn, mae Plas Coch yn siop fendigedig sy’n gwerthu amrywiaeth o addurniadau cartref anarferol a rhoddion ynghyd â chrefftau Lavinia Stamps. Mae gweithdy ac ardal arddangos a bydd lluniaeth ysgafn ar gael. Mae lle i barcio ar y safle yn ogystal â thoiledau i gwsmeriaid.
The Dreamatorium, Plas Coch, 26 Stryd y Ffynnon, Rhuthun Sir Ddinbych LL15 1AW
Mae'r Dreamatorium ar gyffordd Stryd y Ffynnon a Dog Lane yng nghanol Rhuthun
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Med 2025 |
09:00 - 17:00
|
Sul 14 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|