Skip to main content

Agorwyd a chysegrwyd yr Eglwys Bresbyteraidd Saesneg yn swyddogol ar 18 Mai 1893. 

Dywed disgrifiad ar y pryd, “Mae’r adeilad newydd yn ddiamheuol yn addurno Ruthun, wedi’i ddylunio mewn arddull Gothig pur, ac mae’n sefyll mewn lleoliad dymunol, nid nepell o ganol y dref a’r orsaf, ac yn cynnig golygfa odidog o’r Dyffryn a’r mynyddoedd sy’n ei amgylchynu o’i diroedd. Calchfaen Eyarth yw’r strwythur, amrywiaeth pinc caled a ddefnyddiwyd yn hynod effeithiol yn yr achos hwn. Mae prif ran y waliau allanol heb ei naddu, gyda phob carreg wedi’i ardduno ar ei ymyl yn unig, tra bod conglfeini’r corneli a’r bwtresi wedi’u naddu ac mae’r cyfanwaith pensaernïol yn rhagorol”.

Mae’r adeilad yn gothig o ran arddull ac mae ganddo ffenestri gwydr lliw diddorol o arddull anarferol am gapel anghydffurfiol. Mae un panel gwydr lliw yn coffáu Edith Evans, a drefnodd Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru yn Rhuthun.

Nid oes angen archebu lle ar gyfer diwrnodau 7 ac 8 Medi.

Cynhelir sgwrs hefyd am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923/4 yn yr Eglwys Bresbyteraidd Saesneg nos Wener, 6 Medi. I archebu lle, cysylltwch ag opendoorsruthin@outlook.com a chyfeiriwch at y manylion ar wahân ar y wefan hon.

Bydd gwasanaeth yn yr eglwys fore Sul, 8 Medi, ac wedyn bydd yr eglwys ar agor am hanner dydd ar gyfer Drysau Agored. Mae croeso i bawb fynychu’r Gwasanaeth.

Cyfeiriad - Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1AS.

Mae digon o fysiau yn teithio rhwng Rhuthun a Chaer, Y Rhyl, Yr Wyddgrug, Dinbych, Wrecsam a Chorwen a, thrwy hyn, mae cysylltiadau i brif orsafoedd rheilffordd yn Y Rhyl, Caer a Wrecsam. Mae grisiau wrth fynd mewn i’r eglwys.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00