Skip to main content

O'r Tŷ Hwn / From this House. Sgwrs gan yr artist Bethan M Hughes

Sgwrs am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru - deiseb a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod yng Nghymru ar ddechrau’r 1920au a anfonwyd at fenywod America i geisio perswadio America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Mae Bethan M. Hughes wedi bod yn gweithio ar brosiectau celf tecstilau sy'n gysylltiedig â'r Ddeiseb Heddwch hon.

Lleoliad – Yr Eglwys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1AE.

Mae angen archebu lle. Archebwch le trwy anfon e-bost at opendoorsruthin@outlook.com gan nodi sawl lle sydd eu hangen arnoch ac am ba sgwrs - h.y. O'r Tŷ Hwn/ From this House.

Mae bysiau yn teithio rhwng Rhuthun a’r Rhyl, Caer, Yr Wyddgrug, Dinbych, Wrecsam a Chorwen, ond edrychwch ar wefan Trafnidiaeth Cymru am y manylion https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/bws
Mae maes parcio gerllaw yn Stryd y Farchnad, Rhuthun. Mae grisiau’n arwain at yr eglwys.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Gwen 06 Medi 2024
19:00 - 21:00