Drysau Agored - Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas
Mae Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas yn adeilad rhestredig Gradd II* yn Windsor Place, Caerdydd. Cafodd y prif adeilad ei godi ym 1866. Dyluniwyd yr eglwys mewn arddull Neogothig gan y pensaer Frederick Thomas Pilkington o’r Alban, ac yn wreiddiol roedd yn perthyn i enwad Eglwys Bresbyteraidd yr Alban. Ymdrechodd Pilkington i ddefnyddio deunyddiau lleol wrth ei hadeiladu, a dyluniodd iddi do â sawl to talcen ynghyd â thŵr wyth ochrog. Ym 1893, ailgynlluniwyd yr ochr orllewinol gan bensaer arall, E. M. Bruce Vaughan, a adeiladodd borth newydd. Ar ôl tân ym 1910, ychwanegodd Vaughan do newydd gyda thrawstiau agored. Gwnaed ambell i newidiad mewnol ers hynny, ond mae'r brif seintwar yn parhau i fod yn debyg i'r gwaith adnewyddu a wnaed yn sgil y tân.
Bydd yr eglwys ar agor rhwng 12pm a 3.30pm. Bydd coffi a chacen ar gael i chi.
Windsor Place, Caerdydd CF10 3BZ
Ar gornel Windsor Place a Windsor Lane
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Med 2025 |
12:00 - 15:30
|