Skip to main content

Mae'r digwyddiad Drysau Agored hwn yn cyfeirio at ddau leoliad ar wahân - Eglwys Dewi Sant, Llanddewi ac Eglwys Sant Nicholas, Nicholaston. Mae gan y lleoliadau eu cofnodion eu hunain ar dudalennau Drysau Agored Cadw, felly edrychwch ar y cofnod ar gyfer Eglwys Sant Nicholas, Nicholaston, hefyd er mwyn gweld ei leoliad ar fap ac ati.

Nid yw Eglwys Sant Nicholas ar agor fel arfer, ond mae hi’n eglwys hardd a chanddi lawer o hanes.

Hawdd iawn fyddai peidio â sylwi ar Eglwys Llanddewi, ar y ffordd i Rosili, gan ei bod wedi’i lleoli yn union wrth ymyl fferm weithredol. Dyma eglwys dawel a heddychlon, gyda llawer o hanes i'w ddarganfod.

Mae'r ddwy eglwys mewn lleoliadau gwahanol ar Benrhyn Gŵyr, a thrwy ymweld â’r ddwy gall ymwelwyr weld mwy o’r ardal fendigedig hon.

Mae The Wonder of Wellbeing yn fenter newydd ym Mhenrhyn Gŵyr. (Ewch i'w gwefan i ddysgu mwy). Fel rhan o'r prosiect hwn yn benodol, bydd sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar greadigol lle gallwch alw heibio i ymuno â gweithdy creadigol. Bydd cyfle i wneud llusernau papur neu ddaliwr cannwyll sy’n dangos eich hoff dirnodau ym Mhenrhyn Gŵyr neu'r eglwys yr ydych yn ymweld â hi. Bydd taflen ar gael hefyd a fydd yn helpu’r rhai sydd yn y gweithdy i fyfyrio am yr adeiladau hyn ac i werthfawrogi eu hanes cyfoethog.

Nid oes angen archebu lle.

Llanddewi, Abertawe, SA3 1BD; 
Nicholaston, Abertawe, SA3 2HL.

Llanddewi : https://gowerma.org/rhossilitollanddewi/
Nicholaston: https://gowerma.org/reynoldstontonicholaston/


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
09:00 - 17:00