Drysau Agored - Eglwys Dewi Sant, Llywel
Mae Eglwys Dewi Sant Llywel yn eglwys restredig gradd 1. Mae yma gyfoeth o arteffactau hanesyddol, gan gynnwys carreg Llywel gydag arysgrif ogam arni.
Bydd yr eglwys yn agored i chi weld y trysorau, gan gynnwys cael mynediad i gofnodion yr eglwys.
Bydd croeso cynnes a lluniaeth ar gael.
Dim angen archebu.
Cyfeiriad: Eglwys Dewi Sant, Llywel, Brecon, Powys, LD3 8RF.
Mae'r eglwys yn mhentref bach Llywel, oddi ar yr A40, tua milltir i'r gorllewin o bentref Trecastell.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Med 2025 |
11:00 - 16:00
|