Drysau Agored - Eglwys Gatholig San Joseff, Dinbych
Agorwyd Eglwys Gatholig Sant Joseff ym 1968. Offeiriad y plwyf ar y pryd oedd Fr J Wedlake. Mae’r ffenestr wydr lliw ‘Bedydd Crist’ yn y fedyddfa gan yr artist Jonah Jones ac fe'i gosodwyd tua 1970. Gwnaed y ffenestri gwydr lliw o amgylch y brif eglwys gan Peter Morton yn 1968. Noddwyd y ffenestri gan deuluoedd Catholig lleol. Mae’r Eglwys yn cael ei phrosesu ar hyn o bryd ar gyfer ei rhestru oherwydd ei phwysigrwydd pensaernïol.
Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.
Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D
a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Bryn Stanley, Dinbych, LL16 3NT
Mae Bryn Stanley oddi ar Lôn Llewelyn sy’n edrych dros archfarchnad Morrisons
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 21 Medi 2024 |
10:00 - 16:00
|