Skip to main content

Dechreuodd Robert Dudley, iarll Caerloyw ac un o ffefrynnau Elisabeth I, adeiladu'r eglwys yn 1578.  Mae'n debyg bod yr eglwys yn rhan o gynllun yr Iarll i drosglwyddo'r Esgobaeth o Lanelwy i Ddinbych.  Cafodd y gwaith adeiladu ei atal yn 1584 ac nid oedd y strwythur wedi'i gwblhau pan fu farw'r Iarll. 

Yr adfeilion urddasol yw olion yr eglwys Brotestannaidd gyntaf a'r un fwyaf uchelgeisiol, fwy na thebyg, i'w hadeiladu ar ôl y diwygiad Protestannaidd. 

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Cyfeiriad: Leicester’s Church, Bull Lane, Denbigh, LL16 3LY.

I gyrraedd - O flaen y Llyfrgell ar y Stryd Fawr, trowch i'r chwith a cherddwch ar hyd Bull Lane i'r fynedfa i Furiau'r Dref, trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd i'r Eglwys.

Safle bws: ar y Stryd Fawr. Bws 51, 52 i Ddinbych.

 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00