Drysau Agored - Eglwys San Decumanus, Rhoscrowdder
Mae’r eglwys fawr hon, sy’n swatio o dan y burfa olew enfawr, wedi bod yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill ers 13 mlynedd.
Bu ffrwydrad trychinebus yn y burfa yn 1994 a achosodd i do’r eglwys symud a bu’n rhaid gwagio’r pentref.
Dyma eglwys restredig Gradd I, ganoloesol yn bennaf, sydd â thŵr Sir Benfro arbennig o dal a chynllun llawr cymhleth sydd â 4 capel, pob un wedi ei adeiladu gan drigolion 4 tŷ nodedig y plwyf.
Mae cerfluniau a delw canoloesol yn dal i’w gweld y tu mewn yn ogystal â heneb Rococo wych.
Bydd yr eglwys ar agor i ymwelwyr a bydd llawlyfrau byr ar gael i’w darllen yn yr eglwys ac i’w cludo adref.
Rhoscrowdder, Sir Benfro SA71 5SJ.
O Benfro: dilynwch yr arwyddion i’r de o ganol y dref i “Valero”, mae arwydd y troad olaf i’r dde yn dweud “Rhoscrowdder”. Gyrrwch heibio’r burfa, ewch i lawr rhwystr gosod cyn gweld yr eglwys.
Mae dwy ffordd o gyrraedd Rhoscrowdder o’r ffordd i Angle, mae un yn llawer llai prysur na’r llall. Gallwch chi ddilyn arwyddion tuag at Valero sy’n golygu osgoi Penfro. Unig ffordd y pentref yw Pleasant View.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Llun 01 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|