Drysau Agored - Eglwys Sant Ceinwen, Llangeinwen
Wrth ichi ddirwyn eich ffordd allan o bentref Dwyran, ac ar y tro cyn i’r ffordd fynd yn ei blaen yn unionsyth am Niwbwrch, mae Eglwys Llangeinwen yn swatio mewn llecyn cysgodol.
Ystyrir yr eglwys yn unigryw yn Ynys Môn oherwydd iddi gael ei sefydlu, yn ôl pob tebyg yn y nawfed ganrif neu efallai mor gynnar â’r chweched ganrif, gan ddiddordeb teuluol yn hytrach na chan ddiddordeb arferol cymdeithas neu ddylanwad dosbarth. Dwy chwaer, Ceinwen a Dwynwen, a sefydlodd Eglwys Llangeinwen yn ogystal â’r un y mae ei hadfeilion enwog i’w gweld ar Ynys Llanddwyn gerllaw. Wedi hynny cysegrwyd y ddwy eglwys i’w sylfaenwyr, ac y mae hyn yn anarferol oherwydd bod yr unig seintiau benywaidd a anrhydeddir yn y Calendr Cymraeg yn rhai Beiblaidd.
Mae’r adeilad presennol yn Llangeinwen yn dyddio’n ôl i’r ddeuddegfed ganrif ac fe’i defnyddiwyd yn gyson ers hynny. Y mae muriau gogleddol a deheuol corff yr eglwys o’r cyfnod hwn a rhai’r gangell yn perthyn i’r canol-oesoedd. Newidiwyd llawer ar y cynllun pedronglog syml, sy’n nodweddiadol o adeiladau eglwysig cyfoes yn Ynys Môn, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg trwy ychwanegu capel gogleddol a thŵr. Mae cerrig beddi o’r nawfed a’r unfed ganrif ar ddeg wedi eu hadeiladu i mewn yn y bwtresi. Dyddia’r bedyddfan garreg addurnol o’r drydedd ganrif ar ddeg.
Cafodd yr eglwys ei hadnewyddu yn 1928 pan dynnwyd i lawr oriel Fictoraidd ym mhen gorllewinol corff yr eglwys. Ar ôl symud plastr y nenfwd daeth trawstiau to yn perthyn i’r canol-oesoedd cynnar i’r golwg.
Cyfeiriad - Eglwys Sant Ceinwen, Llangeinwen (Dwyran), Ynys Môn, LL61 6RD. SH 439658
Lleolir yr eglwys ar gongl serth ar y A4080 tu allan i Dwyran.
Mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Fe fydd yr eglwys ar agor gyda stiwardiad wrth law Dydd Sadwrn 6 Medi rhwng 12 yp a 4 yp.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Medi 2025 |
12:00 - 16:00
|