Skip to main content

Mae'r eglwys blwyf ganoloesol eithriadol o gain hon wedi'i rhestru'n radd 1, gyda pheth o'r gwydr canoloesol gorau yn y rhanbarth, ac mae'n enwog am y Ffenestr Jesse, un o saith rhyfeddod Cymru.

Bu eglwys ar y safle ers y 6ed ganrif, ac mae pererinion yn dal i ddod i ymweld â Ffynnon Sant Dyfnog y tu ôl i'r fynwent. Mae'r eglwys yng nghanol Llanrhaeadr, ac mae'n denu llawer o ymwelwyr gan gynnwys y rhai ar Bererindodau at Ffynhonnau. Mae’r eglwys a'r fynwent yn cael eu gwerthfawrogi fel mannau heddychlon, sanctaidd.

Gall ymwelwyr astudio ffenestr Jesse. Mae Llyfr Eseia yn cyflwyno Jesse, un o hynafiaid Crist, fel gwreiddyn coeden fawr. Mae Jesse ar waelod y ffenestr gwydr lliw hon, ac mae'r goeden yn codi oddi wrtho.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Cyfeiriad - Eglwys Sant Dyfnog, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, Dinbych, LL16 4NN.
///what 3words: (CYM) ///dylech.gweithiaf.cynlluniwr    (Eng) ///spicy.irony.zest

Mae Llanrhaeadr yng Nghinmeirch yn bentref bychan a osgoir gan yr A525, tua 3.5 milltir i’r de o Ddinbych. Trowch oddi ar yr A525 wrth ymyl arwyddbost y pentref; mae Eglwys Sant Dyfnog yng nghanol y pentref gyferbyn â thafarn y King’s Head.
Gwasanaeth Bws: Mae X51 (Arriva) yn stopio yng nghanol y pentref ac yn cynnig cysylltiad â Dinbych, Rhuthun a Wrecsam ar ddydd Sadwrn; dim gwasanaeth ar y Sul.

 

 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00