Drysau Agored - Eglwys Sant Dyfrig a Sant Samson, Caerdydd
Adeiladwyd yr eglwys ar ddechrau'r 20fed ganrif fel Eglwys Sant Samson, i wasanaethu pen uchaf Grangetown yng Nghaerdydd. Yn 1969, newidiwyd y cysegriad i gynnwys Sant Dyfrig, enw eglwys a ddymchwelwyd yn ddiweddar gerllaw. Etifeddodd Sant Samson lawer o nodweddion addurniadol Sant Dyfrig.
Bydd yr eglwys ar agor drwy'r dydd i bobl ymweld, a bydd lluniaeth yn cael ei weini. Ar adegau penodol bydd sgyrsiau ar hanes yr eglwysi/ardal a gweithgareddau i blant.
D.S. Bydd gwasanaeth Caneuon Mawl hefyd ar y nos Sul am 6pm.
Nid oes angen archebu tocyn ymlaen llaw.
Cyfeiriad - Eglwys Sant Dyfrig a Sant Samson, Pentre Gardens, Caerdydd, CF10 6QE.
Mae mynediad i’r eglwys trwy Pentre Gardens, oddi ar Clare Road yn Grangetown. Mae’n daith 10 munud ar droed o Orsaf Ganolog Caerdydd.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
10:00 - 17:00
|