Ailadeiladwyd Eglwys Sant Eloi o olion darniog canoloesol yn y 1920au gan y pensaer John Coates Carter. Mae’r eglwys yn nodweddiadol o waith mwy diweddar y pensaer gan bod deunyddiau brodorol a motiffau cynhenid Cymreig amlwg ynddi. Y tu mewn, mae croglofft enfawr hyfryd, sgrin wedi ei cherfio a phulpud syml, a’r cyfan yn sefyll yn erbyn wyneb gorllewinol y wal sgrin ganoloesol. Mae dau fedyddfaen carreg yn yr eglwys – adeiladwyd un o gerrig hynafol a ddarganfuwyd wrth gloddio. Bydd eglwys Sant Eloi ar agor i ymwelwyr. Lleoliad – Llandeloy, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6LJ. Dilynwch yr A40 tuag at Abergwaun. Trowch i’r chwith ar Fryn Sheltery. Trowch i’r dde ar y B4330. Cariwch yn syth ymlaen ar Y Causeway. Mae’n hawdd dod o hyd i’r eglwys yng nghanol y pentref tu ôl i neuadd rychiog y pentref. Mae grisiau’n arwain i lawr at yr eglwys. Llandeloy, Haverfordwest, Sir Benfro, SA62 6LJ. |
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Maw 01 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 02 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Iau 03 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Gwen 04 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 05 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 06 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 07 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Maw 08 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 09 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Iau 10 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Gwen 11 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 12 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 13 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 14 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Maw 15 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 16 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Iau 17 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Gwen 18 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 21 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Maw 22 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 23 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Iau 24 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Gwen 25 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 26 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 27 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 28 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Maw 29 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 30 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|