Drysau Agored - Eglwys Sant Madog o Ferns, Gorllewin Haroldston
Mae Eglwys Sant Madog yn eglwys fechan, ganoloesol a adeiladwyd ar safle cymuned grefyddol a sefydlwyd yn 583AD gan Sant Madog (a elwir hefyd yn Sant Aidan) mewn cwm coediog bach gerllaw’r arfordir.
Er iddi gael ei hadfer yn 1883, mae’r eglwys wedi cadw llawer o’r sylfeini a’r waliau o’r 12fed a’r 13eg ganrif, yn ogystal â bedyddfaen canoloesol. Mae gwaith celf gwydr lliw yn cynnwys cofebau o’r Rhyfel Byd Cyntaf a darlun o’r 20fed ganrif o Sant Madog.
Fe’i caewyd gan yr Eglwys yng Nghymru yn 2022, ond mae’n parhau i fod yn eglwys seml, atmosfferig gyda’i gwreiddiau yn Oes y Seintiau.
Bydd yr eglwys yn agor rhwng 11:00 a 16:00 gyda byrddau arddangos ac aelodau o'r gymuned leol yn bresennol, a fydd yn falch iawn o siarad am eu brwydr i achub yr eglwys, ac am hanes Sant Madog, yr eglwys a rhai o'r bobl a'r straeon sy'n gysylltiedig â hi. Yn garedig iawn, mae Greenala wedi cynnig chwarae cerddoriaeth ganoloesol yn ystod y digwyddiad. Bydd taith gerdded bob dydd o Aberllydan i Eglwys Sant Madog ac yna i Fferm Williamston, sy’n dyddio o’r 14eg Ganrif gyda'i marciau prin ar bren Baltig.
Does dim angen archebu lle.
Lleoliad – Eglwys Sant Madog, Gorllewin Haroldston, SA62 3NB.
Cyfeirnod Grid OS: SM 86620 15391. GPS: 51.79642; -5.09588.
what3words: ///hydration.charm.dolly
Maes Parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro, Millmoor Way, Aberllydan, SA62 3JH.
Cyfeirnod Grid OS: SM 86337 14066. GPS: 51.784444, -5.099167. what3words:///hazel.fetch.episode
Mae Eglwys Sant Madog o Ferns ym mhlwyf arfordirol Gorllewin Haroldston, ychydig i'r gogledd o Aberllydan, Sir Benfro.
Mae llefydd parcio yn brin ger yr eglwys ac anogir pobl i barcio ym Maes Parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro yn Aberllydan a cherdded trwy Goedwig Haroldston (lle bo hynny’n bosibl).
Mae rhywfaint o drafnidiaeth gyhoeddus i’r eglwys, gyda Bws Puffin 400 yn mynd ar y ddau ddiwrnod, a gwasanaeth bws fflecsi i’w gael ar y dydd Sadwrn yn unig - https://www.pembrokeshire.gov.uk/busroutesandtimetables/busrouteslistcoastalbuses).
Mae llwybr ar oleddf (gyda rheilen un llaw) yn arwain o’r giât i’r eglwys. Ceir nifer o stepiau bach ac mae’n anaddas i gadeiriau olwyn. Mae cyfleusterau toiled cyfyngedig i’w cael nepell o’r eglwys.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Medi 2025 |
11:00 - 16:00
|
Sul 07 Medi 2025 |
11:00 - 16:00
|