Drysau Agored - Eglwys Sant Marc, Brithdir, ger Dolgellau
Mae Eglwys Sant Marc yn eglwys Gelf a Chrefft anhygoel ac mae’n adeilad rhestredig Gradd I. Cafodd ei hadeiladu 1895-1898 i gynlluniau Henry Wilson a thalwyd amdani er cof am y Parchedig Charles Tooth, caplan a sylfaenydd Eglwys Seisnig Sant Marc yn Fflorens.
Mae’n arbennig o bwysig oherwydd hyfdra ei phensaernïaeth a manylion naturiolaidd ei mân ffitiadau.
Cadwch lygad am gerfiadau cain o dylluanod, llygod, gwiwerod a glas y dorlan ar bennau’r meinciau a rhyfeddwch at yr allorlun copr neilltuol.
Mae Eglwys Sant Marc ar agor i ymwelwyr bob dydd ar gyfer Drysau Agored yn ystod Medi. Tu mewn bydd arweinlyfrau deniadol, llawn gwybodaeth i ymwelwyr gael eu cadw.
Cyfeiriad: Eglwys Sant Marc, Brithdir, ger Dolgellau, Gwynedd, LL40 2RN.
Cyfarwyddiadau – o’r A5 ar gylchfan Churncote ewch ar yr A458; cariwch ymlaen ar yr A458 tan i chi allu mynd ar yr A470; o’r A470 trowch i’r dde ar y B4416.
Dylech wybod bod yr eglwys wedi ei hamgylchynu â rhododendrons a gall fod yn anodd i’w gweld.
Nid oes llawer o le i barcio yn y gilfan tu allan i’r eglwys. Ewch i mewn i’r eglwys drwy gât ac i fyny grisiau. Mae’r fynedfa yn y porth deheuol.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Llun 01 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 02 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Mer 03 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Iau 04 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Gwen 05 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sad 06 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 07 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 08 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 09 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Mer 10 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Iau 11 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Gwen 12 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sad 13 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 14 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 15 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 16 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Mer 17 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Iau 18 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Gwen 19 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sad 20 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 21 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 22 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 23 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Mer 24 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Iau 25 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Gwen 26 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sad 27 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 28 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 29 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 30 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|