Drysau Agored - Eglwys Sant Pedr, Niwbwrch
Ychydig lathenni i lawr y ffordd o olion hynafol Llys Rhosyr ar Ffordd Llanddwyn, Niwbwrch saif eglwys San Pedr yn edrych allan ar fawredd eang mynyddoedd Eryri. Tybed ai’r eglwys hon sy’n mwynhau un o’r golygfeydd harddaf ar yr Ynys?
Mae’n eglwys daclus, ddiaddurn oddi allan, heb dŵr pigfain i dynnu sylw, ond oddi mewn mae yno sawl nodwedd deniadol a hynod hardd.Mae’n debyg mai yn y ddeuddegfed ganrif yr adeiladwyd yr eglwys garreg gyntaf yno. Credir fod y gangell, Capel y Santes Fair, wedi’i hadeiladu gan un o dywysogion Cymru cyn 1156 - Owain Gwynedd mwy na thebyg - gyda mynediad iddi drwy ddrws y festri presennol. Y gred yw y byddai Owain, a adeiladodd sawl eglwys yn ystod ei deyrnasiad heddychlon, yn addoli yno pan fyddai’n aros yn Llys Rhosyr.
Ers hynny estynnwyd yr eglwys i gyfeiriad y dwyrain yn fuan ar ôl 1300 i greu un adeilad ac estynnwyd corff yr eglwys i gyfeiriad y gorllewin tua 1500, i’w hyd presennol. Ychwanegwyd y festri presennol yn 1886 gan ddefnyddio drws gwreiddiol hen Gapel y Santes Fair.
Mae’r bedyddfaen, dyddiedig 1150, a wnaed o garreg rud (gritstone) ymhlith yr hynaf yng Nghymru. Mae dwy gloch yn yr eglwys, un a symudwyd o Eglwys Llanddwyn ar ddiwedd y 16eg ganrif; lluniwyd y llall tua 1690 yn wreiddiol a chafodd y ddwy eu hail fwrw yn y 19eg ganrif. Yn wal ddeheuol yr eglwys ger yr allor mae piscine, math o fowlen ar gyfer golchi llestri cymun, sy’n dyddio o’r cyfnod ar ôl 1300.Cynlluniwyd y ffenest liw yn y wal ddwyreiniol gan Henry Wooldridge, disgybl i Syr Edward Burne-Jones, a chredir fod y gwydr yn enghraifft nodedig o ffenest ‘Pre-Raphaelite’ ddiweddar.
Cyfeiriad - Eglwys San Pedr, Niwbwrch, Ynys Môn, LL61 6SG. SH 420655
Lleolir yr eglwys ar y ffordd i’r traeth o ganol pentref Niwbwrch.
Mae mynediad i gadeiriau olwyn ar gael.
Fe fydd yr eglwys ar agor gyda Stiwardiaid wrth law Dydd Sadwrn 6 Medi rhwng 10yb a 4yp.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|