Drysau Agored - Eglwys Santes Fair, Llanfairpwllgwyngyll
Ychydig lathenni i ffwrdd oddi wrth drafnidiaeth brysur Pont Brittania, ym mhen draw lôn droellog sy’n pasio heibio gwesty Carreg Brân ac o dan y bont reilffordd saif Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll. Er mor agos i’r Bont a’i llewod mae yma heddwch i’w deimlo wrth ichi ddirwyn eich ffordd o’r maes parcio a thrwy borth y fywent i lawr at brif ddrws yr eglwys.
O’ch blaen fe welwch chi’r Fenai yn ymestyn i gyfeiriad Plas Newydd a thu draw, golygfa nodedig pan fo’r tywydd yn braf a’r afon yn pefrio. A thu hwnt i’r cyfan, yn codi eu pennau yn y pellter, mynyddoedd mwyn yr Eifl.
Bu addoldy yma ers dros 600 mlynedd ond ym mis Medi 1853 y codwyd yr adeilad presennol. Un o nodweddion hynod yr eglwys yw ffenest liw anarferol yn dathlu ei chysylltiad, flynyddoedd a fu, ag ysgol hyfforddi morwyr yr Indefatigable gerllaw.
Islaw’r fynwent mae cofgolofn i Horatio Nelson a godwyd yn 1837; yn y fynwent ei hun, ar y chwith fel y cerddwch i lawr tuag at y prif ddrws, mae colofn dalsyth a godwyd er cof am bymtheg o ddynion fu farw yn ystod y broses o godi Pont Britannia rhwng 1846-50.
Rai lathenni tu hwnt i wal dalcen yr eglwys mae croes Geltaidd drawiadol yn nodi bedd y bardd a’r ysgolhaig Syr John Morris-Jones (1864-1929). Bellach mae’n gorffwys ger y Fenai fu’n gymaint o ysbrydoliaeth ag y bu Môn iddo fel bardd.
Cyfeiriad - Eglwys Santes Fair, Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn, LL61 6AD. SH 537713
Lleolir yr Eglwys ym mhen draw lôn cul tua 0.2 milltir o Lanfairpwllgwyngyll oddi ar yr A5 i Borthaethwy.
Dim mynediad ar gyfer cadair olwyn.
Fe fydd yr eglwys ar agor gyda stiwardiad wrth law Dydd Sadwrn 14 Medi rhwng 11 yb a 4 yp.