Drysau Agored - Eglwys Santes Margaret, Y Rhath
Comisiynwyd Eglwys Santes Margaret gan drydydd Ardalydd Bute. Fe'i hadeiladwyd yn 1870 i gynlluniau John Prichard. Mae'n cynnwys gwaith maen a chofebion o'r eglwys hynafol a oedd ar yr un safle a ddinistrwyd yn 1867. Cwblhawyd y tŵr yn 1927 i gynlluniau gan John Coates Carter. Reredos gan Ninian Comper, 1925.
Beddrodau aelodau o deulu'r Bute, yn cynnwys yr Ardalydd Cyntaf, mewn beddrod mawreddog a adeiladwyd i gynlluniau John Prichard, 1881-86. Mae'r Beddrod yn cynnwys cerfiadau cain, mosaig a gwydr lliw.
Mae Eglwys Santes Margaret yn adeilad rhestredig Gradd I.
Teithiau tywys o'r eglwys a'r beddrod;
mynediad i'r tŵr (os bydd y tywydd yn caniatáu);
taith gwis i'r plant;
copïau o Gofrestrau Plwyf y Rhath ar gyfer genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn dyddio o 1731 ar gael fel deunydd cyfeirio;
paneli arddangos hanesyddol;
copïau o arysgrifau cerrig beddi (a gymerwyd cyn clirio'r fynwent) ar gael fel deunydd cyfeirio;
Mae Tywyslyfrau Eglwys Santes Margaret ar werth.
Mae te ar gael hefyd.
I gyrraedd - Eglwys Santes Margaret, Heol Waterloo, Y Rhath, Caerdydd, CF23 5AD. Ref: NGR/ST 199 777.
Mae’r eglwys ar Ffordd Waterloo yn y Rhâth, un o faestrefi Caerdydd, ar gyffordd y gylchfan gyda Ffordd Albany a Ffordd Marlborough. Dylai ymwelwyr sy’n dod o ganol Caerdydd deithio i’r dwyrain ar hyd Ffordd Casnewydd, heibio Gorsaf Stryd y Frenhines a’r Clafdy Brenhinol, a throi i’r chwith ger Tŷ Angladd Roath Court (cyffordd fawr â goleuadau traffig ble mae Ffordd Casnewydd yn gwyro i’r dde). Yn syth ar ôl troi i’r chwith, bydd Eglwys Santes Margaret ar y dde.
Er diogelwch, bydd mynediad i'r tŵr yn amodol ar dywydd addas, a bydd y niferoedd wedi'u cyfyngu i bartïon o 20. Dim ond ar gyfer oedolion cryf ac abl y mae dringo'r tŵr yn addas gan bod grisiau cul, serth.
Does dim angen archebu lle.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 21 Medi 2024 |
13:00 - 17:30
|
Sul 22 Medi 2024 |
14:00 - 17:30
|