Skip to main content

Adeiladwyd yr eglwys ar safle Eglwys Santes Marchell o'r 7fed ganrif, yn arddull dau-gorff nodweddiadol Dyffryn Clwyd, a’r hyn a welir heddiw yw canlyniad gwaith ailadeiladu a wnaed tua 1500. Yr Eglwys Wen oedd eglwys y plwyf i Ddinbych drwy gydol y canol oesoedd.

Dyma un o eglwysi pwysicaf Gogledd Cymru; mae’n eithriadol o hardd, mewn cyflwr da, a chanddi sawl cofeb o bwys. Y tu mewn ceir beddau’r mapiwr Humphrey Llwyd, aelodau o deulu grymus Salesbury, yn ogystal â chalon Richard Clough, y masnachwr o Ddinbych. Y tu allan ceir bedd Twm o'r Nant, y dramodydd a’r bardd o Ddinbych.  

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma - 
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.

Cyfeiriad – Eglwys Sant Marcella, Ffordd yr Eglwys Newydd, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 4ER.
What3Words: (Eng)///splat.kitchen.easygoing (Cym)///diffiniad.diddan.gorsedd


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 16:00