Drysau Agored - Eglwys St. Teilo, Llandeilo Bertholau
Mae gan yr eglwys gain hon o'r drydedd ganrif ar ddeg dri chapel siantri. Mae dau yn cynnwys llechi allor carreg ganoloesol. Mae gan y tŵr chwe chloch. Mae’r fwyaf ohonyn nhw’n dyddio i’r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd gyda'r lleiaf yn dyddio o 1665. Ceir sawl cofeb gain o'r ddeunawfed ganrif wedi'u cerfio gan y teulu Brute, a oedd yn seiri maen.
Adferwyd yr eglwys gan George Pace yn dilyn tân mawr yn 1975, gyda sgrin a chanwyllyrau wedi’u dylunio gan y pensaer.
Mae gan y fynwent sawl ywen hynafol, pedair ar ddeg o Orsafoedd y Groes wedi’u gwneud o dderw ynghyd a gardd Beiblaidd o flodau gwyllt. Mae’r Capel Coffa a gwblhawyd yn ddiweddar yn gofeb i’r rhai a fu farw yn ystod y ddau Ryfel Byd.
Urddwisgoedd ac arteffactau eraill. Teithiau i’r tŵr. Beth am roi parasiwt a gollwng eich tedi neu degan meddal o’r tŵr.
Bydd te, coffi a chacennau cartref ar gael drwy gydol y dydd ynghyd â barbeciw (hanner dydd tan 2.00pm).
Dim angen archebu.
Eglwys St. Teilo, Llandeilo Bertholau, Y Fenni, Sir Fynwy NP7 6NT.
Ychydig oddi ar Ffordd Henffordd, Llantilio Pertholey, Y Fenni. Mae gwasanaeth bws 23 rhwng Y Fenni a Henffordd ar gael gerllaw’r eglwys.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|