Drysau Agored - Eglwys y Santes Fair a’r Holl Saint, Conwy
Saif Eglwys y Santes Fair yng nghanol tref gaerog, ganoloesol Conwy ar aber Afon Conwy. Dyma eglwys gyfeillgar, greadigol, a cherddorol sy’n croesawu aelodau newydd ac sy’n cynnig dysg arbennig. Mae’r eglwys ar agor i ymwelwyr rhwng dydd Mawrth a dydd Sadwrn (11am-3pm) yn ystod tymor yr haf, a bydd yno dîm o wirfoddolwyr arbennig i’ch croesawu.
Diwrnod Hanes Bywyd y Sistersiaid. Diwrnod agored gyda gweithgareddau sy'n archwilio bywyd bob dydd y Mynachod Sistersaidd, trigolion gwreiddiol yr eglwys hanesyddol. Gan gynnwys gweithgareddau crefft, llwybrau, sgyrsiau a lluniaeth.
Nid oes angen archebu lle.
Address - Eglwys y Santes Fair a’r Holl Saint, Rose Hill Street, Conwy, LL32 8LD.
Mae pedwar porth ar brif strydoedd Conwy sy’n arwain at ganol yr hen dref - Rose Hill Street, High Street, Castle Street a Church Street. Nid oes grisiau i fynd i mewn trwy Castle Street a Church Street.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Gwen 26 Sep 2025 |
10:00 - 16:00
|