Drysau Agored - Eglwys y Santes Fair, Caerhun
Wedi’i hamgylchynu gan gaeau gwyrdd ochr yn ochr ag afon Conwy, mae Eglwys y Santes Fair wedi parhau i gadw ei symlrwydd gweddigar a fwriadwyd gan y mynaich Sistersaidd a’i sefydlodd yn yr Oesoedd Canol cynnar. Ceir coed ywen hynafol yno hefyd ac yn y fan hon yr oedd safle’r gaer Rufeinig o’r enw Canovium.
Arddangosfa arbennig "Rhufeiniaid Canovium" gan gynnwys lluniau o'r celc arian Rhufeinig a ganfuwyd yn 2018. Dydd Sadwrn 6 Medi 10am - 4pm
Nid oes angen archebu lle.
Eglwys y Santes Fair Caerhun, Ty'n y Groes, LL32 8UZ.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|