Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Draw o ymryson ynfyd,/chwerw’r newyddfyd blin  meddai’r bardd gynt am y Lôn Goed yn Eifionydd: geiriau sydd yr un mor addas i ddisgrifio’r heddwch sydd i’w deimlo ar dir eglwys fechan y Santes Fair, Llanfair-yn-y-Cwmwd. Saif mewn llecyn cysgodol ryw gwta hanner milltir i’r dwyrain o Eglwys Llangeinwen.

Cynllun syml sydd i’r adeilad Gradd II rhestredig sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif, a’r ffaith na chafodd ei hadeiladwaith ei newid yn sylweddol yn ystod canrifoedd diweddarach yw’r hyn sy’n rhoi iddi ei hynodrwydd.

Ar fur gogleddol y gangell gallwch weld clawr arch, sy’n dyddio o ganol y 13eg ganrif, wedi ei addurno â chroes gerfiedig a phatrwm deiliog; elfen hynod arall yw’r bedyddfaen sy’n dyddio o’r 12fed ganrif ym mhen gorllewinol corff yr eglwys.

Mae yma hefyd ffenest liw sy’n coffau’r meddyg W.R.Williams a oedd yn ŵr i’r hanesydd Elizabeth Ann Williams, Taldrwst, Dwyran. Hi oedd awdur y gyfrol Hanes Môn yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1927) a ddatblygodd yn gryn glasur.

Yn gorwedd yn heddwch hynod Llanfair-yn-y-Cwmwd mae gweddillion Maurice Wilks, cynllunydd y Land Rover; yno hefyd mae beddau mwy diweddar y Parch. Emlyn Jones fu’n weinidog yn Nwyran am flynyddoedd lawer a’r meddyg teulu Dr John B.T. Griffiths, ŵyr i’r Dr John Williams, Brynsiencyn.

Ni chynhelir gwasanaethau yma bellach ond y bwriad yw ei datblygu’n eglwys bererindod lle y caiff teithwyr blinedig ddod i brofi llonyddwch a heddwch ysbrydol.

Cyfeiriad – Eglwys y Santes Fair, Llanfair yn y Cwmwd, Gaerwen, Ynys Môn, LL61 6AX. 
SH 446667    

Lleolir yr Eglwys bron I filltir I’r gogledd o Eglwys Llangeinwen tu allan I bentref Dwyran. Mae’r Eglwys I fyny lôn bach rhwng Eglwys Llangeinwen a’r garej.  

Mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 06 Medi 2025
12:00 - 16:00