Drysau Agored - Eglwys y Santes Fair, Rhuddlan
Mae’r eglwys ddiddorol hon o’r 13eg ganrif yn edrych dros afon Clwyd. Adeiladwyd eil ychwanegol a thŵr yn y 15fed ganrif, a gwnaed gwaith adnewyddu sylweddol yn oes Fictoria gan George Gilbert Scott.
Ymhlith y nodweddion yn Eglwys y Santes Fair mae cerfiadau carreg o Briordy Dominicaidd a phaentiadau ysgrythurol o’r 17eg ganrif ar y waliau.
Ar gyfer gŵyl Drysau Agored, bydd:
arddangosfa yn cynnwys gwydr lliw yn Eglwys Santes Fair, mynediad i gofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau, arddangosfa o hen fapiau a lluniau gan Gymdeithas Hanes Rhuddlan, teithiau tywys, Ffair Grefftau ddydd Sadwrn, lluniaeth.
Does dim angen archebu lle.
Cyfeiriad – Eglwys y Santes Fair, Stryd yr Eglwys, Rhuddlan, Sir Ddinbych, LL18 2YA.
Mae Eglwys y Santes Fair wedi’i lleoli ar ochr orllewinol y pentref sy’n edrych dros afon Clwyd, llai na 5 munud o gerdded o Stryd Fawr Rhuddlan.
Mae Rhuddlan ar lwybrau bysiau o’r Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Mae lloriau anwastad mewn rhai rhannau o’r eglwys. Ceir rhai stepiau ond mae rampiau ar gael hefyd. Mynediad i doiledau trwy stepiau yn unig.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 26 Med 2026 |
10:00 - 15:00
|
| Sul 27 Med 2026 |
11:00 - 14:00
|