Drysau Agored - Eglwys y Santes Fair, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Mae'r eglwys hardd hon yn dyddio o tua 1490 ac fe'i comisiynwyd gan yr Arglwyddes Margaret Beaufort, mam Harri VII, i ddiolch am ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Bosworth 1485, a ddaeth ag ef a llinach y Tuduriaid i orsedd Lloegr. Roedd y tir yn eiddo i'w phedwerydd gŵr, yr Arglwydd Thomas Stanley, a oedd yn Arglwydd yr Wyddgrug a Brenin Manaw. Mae'r Eglwys wedi'i hadeiladu mewn Arddull Berpendicwlar gydag ystlys i gorff yr eglwys, gwaith cerrig wedi’i gerfio a tho derw. Ychwanegwyd y Tŵr yn y 18fed ganrif a chafodd yr eglwys ei hadfer gan George Gilbert Scott yn 1856, a ychwanegodd gangell gromfannol hefyd. Mae'r ffenestri gwydr lliw hardd yn dyddio'n bennaf o'r 19eg ganrif, ond cafodd rhywfaint o’r gwydr lliw sy’n perthyn i gyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd ei achub, ac yn ddiweddarach cafodd ei roi at ei gilydd i ffurfio ffenestr newydd.
Bydd y digwyddiad Drysau Agored yn cynnwys dwy daith dywys o'r eglwys am 11am a 2pm ddydd Sadwrn, 6 Medi 2025. Ar gyfer y ddwy sesiwn, byddaf yn rhoi sgwrs fer ar gefndir yr adeilad lle gall y rheini sydd wedi dod eistedd. Dilynir hyn wedyn gan daith gerdded o amgylch yr eglwys lle byddaf yn tynnu sylw at nodweddion pwysig a diddorol. Unwaith eto, gall y rheini sydd wedi dod eistedd yn y seddau wrth i ni fynd rhagddo os ydynt yn dymuno.
Gofynnir i'r rhai sy'n dymuno dod i unrhyw un o’r ddwy daith gyrraedd 15 munud ymlaen llaw.
Mae Eglwys y Santes Fair yng nghanol y dref, ar ben uchaf Stryd Fawr yr Wyddgrug ac mae’n hawdd ei gweld. Y Cod Post yw CH7 1BQ
Mae gan y dref orsaf fysiau sy'n ganolfan drafnidiaeth gyda chysylltiadau da â Chaer, Wrecsam, Y Fflint a Glannau Dyfrdwy. Os ydych chi’n cyrraedd ar fws, gellir gweld yr eglwys yn glir o'r orsaf fysiau. Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio am ddim y tu ôl i'r eglwys ac mae maes parcio talu ac arddangos ym maes parcio Sgwâr Griffiths gerllaw. Mae grisiau i fyny at adeilad yr eglwys ei hun ond mae mynediad i bobl anabl hefyd drwy faes parcio'r eglwys a thrwy ddrws cefn y festri.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Sep 2025 |
11:00 - 12:15
14:00 - 15:15
|