Drysau Agored - Gwaith Haearn Blaenafon
Roedd y gwaith haearn yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.
Dros ddau gan mlynedd yn ôl, roedd technoleg newydd o fath gwahanol yn cynhyrchu stêm ym Mlaenafon ac yn sicrhau bod ffyniant diwydiannol Cymru yn mynd o nerth i nerth.
O’r tanio i’r gwaith bwrw. Roedd y tanio yn digwydd ar ben y ffwrnais gyda glo, mwyn haearn a charreg galch, cyn i’r haearn tawdd gael ei fwrw yn yr iard islaw.
Fodd bynnag, dim ond un rhan o’r stori yw’r gwaith haearn. Mae’r tirlun o amgylch hefyd yn chwyldroadol o ran ei ffurf a’i swyddogaeth. O byllau glo i linellau rheilffordd, gellir olrhain y llwybrau i mewn ac allan o hyd, o’r deunyddiau crai i’r cynnyrch gorffenedig.
Teithau am 12pm a 3pm.