Drysau Agored - Hen Eglwys Llangelynnin
Mae gan yr eglwys restredig Gradd I hon o’r 12fed ganrif olygfeydd ysblennydd, ac mae wedi’i lleoli fry uwchben Henryd (900 troedfedd). Mae’n dal ysbryd y pererinion gyda’i harddwch syml ar ben bryn ac yno hefyd mae ffynnon sanctaidd Sant Celynnin o’r 6ed ganrif.
Cyngerdd prynhawn yn Llangelynnin ar gyfer mis 'Drysau Agored' gan y gyfansoddwraig a'r offerynwraig leol Hazel Mary ar y soddgrwth. Bydd cymysgedd o arddulliau cerddorol, a chyfle i fod y cyntaf erioed i glywed cyfansoddiad newydd a grëwyd i gyd-fynd â cherdd a ysgrifennwyd am yr eglwys. Os yw'r tywydd yn caniatáu, dewch â phicnic a blanced i eistedd arno.
Rhowch ddigon o amser i gyrraedd yr eglwys er mwyn dechrau am 2.30pm
Hen Eglwys Llangelynnin, Llechwedd Conwy LL32 8LJ Cyfeirnod Grid OS SH751737
Mae modd cyrchu’r lle mewn car neu ar droed.
Dilynwch gyfeirnod grid yr OS
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 14 Medi 2025 |
14:30 - 16:00
|